Is-ddeddfau pysgota newydd yn dod i rym ar afonydd Dyfrdwy a Gwy

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau is-ddeddfau newydd i ddiogelu stociau eogiaid sy’n agored i niwed yn afonydd trawsffiniol Dyfrdwy a Gwy yng Nghymru.

Mae’r is-ddeddfau, a ddaeth i rym ar 31 Ionawr, yn efelychu dull is-ddeddfau Cymru Gyfan a ddaeth i rym yn gynharach ym mis Ionawr eleni, mewn pryd ar gyfer tymor 2020.

Ar Afon Dyfrdwy, bydd yr is-ddeddfau yn eu lle am 10 mlynedd ac yn golygu bod yn rhaid rhyddhau pob eog yn fyw gyda chyn lleied o anaf ac oedi ag sy’n bosibl. 

Ar yr Afon Gwy dylid darllen y mesurau newydd efo'r rheolaethau dalfeydd helaeth sydd wedi bod ar waith ers 2012 ac nad ydynt yn dod i ben tan 2021, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu ac yn ymgynghori ar reoliadau newydd cyn hynny os bydd angen.

Mae mesurau hefyd wedi cael eu cyflwyno i helpu i amddiffyn brithyll môr mewn llawer o’n hafonydd, gyda’r holl frithyll môr sydd wedi’u dal â gwialen dros 60cm yn cael eu rhyddhau’n fyw.

Yn ogystal, bydd rheolaethau newydd ar ddulliau pysgota yn gwella goroesiad pysgod sydd wedi’u rhyddhau fel y gallant gyfrannu at y stociau silio.

Dywedodd Peter Gough, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym yn cydnabod yr angen am ddull cwbl integredig ar gyfer ein hafonydd ar y ffin ac rydym yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol.
“Mae ein holl stociau o eogiaid mewn trafferthion difrifol ac wedi disgyn i lefelau hanesyddol o isel. Mae’r un peth yn wir am y mwyafrif (70%) o’n stociau o frithyll môr.  
“Credwn yn gryf fod yr is-ddeddfau newydd, ynghyd ag ystod o fesurau brys eraill fel mynd i’r afael â llygredd amaethyddol, gwella ansawdd dŵr, gwella cynefinoedd a rheoli bygythiadau posibl gan ysglyfaethwyr, yn hanfodol ar gyfer dyfodol eogiaid a brithyll môr yng Nghymru.
“Rydym eisiau gweithio gyda’r cymunedau pysgota a phawb sydd â rhan yn amgylcheddau ein hafonydd i warchod ein pysgod a’n pysgodfeydd er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Bydd yr is-ddeddfau yn gam cadarnhaol i helpu i ddiogelu stociau.” 

Datganiad gan y Gweinidog:

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-penderfyniad-i-gymeradwyo-ddeddfau-gwialen-lein-eogiaid-brithyllod-y-mor 

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yma:

https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/fisheries/angling-byelaws/?lang=cy