Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog gwyliadwriaeth wrth i rybuddion llifogydd arfordirol gael eu cyhoeddi
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl sy'n byw ger arfordir Cymru neu'n ymweld â nhw i fod yn barod ar gyfer effeithiau llifogydd arfordirol lleol nos Wener (18 Hydref). Bydd hyn yn cynnwys tir a ffyrdd isel ger yr arfordir neu'r aberoedd.
Gallai fod llifogydd lleol mewn rhai mannau agored i niwed hefyd.
Mae'n debygol y bydd rhybuddion llifogydd ar gyfer rhannau o arfordir Cymru yn cael eu cyhoeddi nos Wener hon i gyd-fynd â'r llanw uchel.
Mae rhybuddion llifogydd eisoes wedi eu cyhoeddi ar gyfer:
- Afon Tywi wrth Gei Caerfyrddin, Caerfyrddin
- Ardal y llanw ym Mharc Gwyliau Bae Caerfyrddin, Cydweli
- Ardal y llanw yng Nghei Caerfyrddin
- Ardal y llanw yn Nhalacharn
- Ardal y llanw yn Dale
- Ardal y llanw ym Mhentywyn
- Ardal y llanw yn Islaw'r Dref, Abergwaun
- Ardal y llanw yn Aberteifi
- Aber Wysg yn Aber-wysg a Hen Ddociau'r Dref
- Aber Wysg yng Nghaerllion
- Aber Gwy ger Tyndyrn
- Aber Gwy ger Cas-gwent
- Traeth Coch
Mae pobl yn cael eu hannog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i rybuddion gael eu hychwanegu, eu diweddaru a'u dileu drwy edrych ar wefan CNC.
Y llanw nos Wener yw'r uchaf o'r gyfres bresennol o orllanwau a bydd lefelau dŵr yn uwch oherwydd effaith ymchwydd stormydd a thonnau mewn lleoliadau agored.
Er y bydd uchder llanwau yn dechrau lleihau ar ôl heddiw, mae angen i bobl aros yn wyliadwrus dros y penwythnos gan fod disgwyl tywydd stormus sy'n gysylltiedig â Storm Ashley ddydd Sul.
Mae'n debygol y bydd rhybuddion ‘Llifogydd – byddwch yn barod’ - sydd lefel yn is na rhybuddion llifogydd - yn parhau mewn grym dros y penwythnos ar gyfer rhannau o arfordir Cymru. Gall rhybuddion ‘Llifogydd – byddwch yn barod’ hefyd gael eu cyhoeddi oherwydd glaw trwm yn achosi i afonydd godi eto ar ôl llifogydd diweddar. Felly bydd tir a ffyrdd isel yn parhau mewn perygl o lifogydd lleol pellach dros y dyddiau nesaf.
Dywedodd Nicholas Bettinson, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru,
"Gyda'r potensial ar gyfer llifogydd eiddo mewn ardaloedd arfordirol isel, rydym yn annog pobl i wneud paratoadau ar gyfer effeithiau llifogydd.
"Os ydych yn byw ger yr arfordir, neu’n ymweld ag ardal arfordirol, cymerwch fwy o ofal nag arfer gan gadw pellter diogel rhyngoch â llwybrau arfordirol a phromenadau y gallai gwyntoedd cryfion ac ewyn o’r môr effeithio arnynt.
"Bydd gweithwyr o CNC mewn safleoedd allweddol ledled Cymru yn gwirio bod amddiffynfeydd mewn cyflwr da er mwyn lleihau'r perygl i bobl a'u cartrefi.”
Gall pobl ymweld â'n gwefan trwy chwilio am Gyfoeth Naturiol Cymru ar-lein a gwirio eu perygl llifogydd yn syml trwy nodi cod post a gwirio lefelau'r afonydd, glawiad a data'r môr. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i baratoi ar gyfer llifogydd, sut i gofrestru ar gyfer system rhybuddion llifogydd am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru a chamau i'w cymryd i ddatblygu cynllun llifogydd cymunedol.
"Gall pobl hefyd wirio'r rhagolygon llifogydd 5 diwrnod ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru, a dod o hyd i gyngor ymarferol fel symud eiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau a chael eitemau allweddol fel dogfennau pwysig a meddyginiaeth yn barod mewn pecyn llifogydd.
“Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188."