Cyfoeth Naturiol Cymru yn erlyn dyn o Dde Cymru am droseddau gwastraff

Pentwr o wastraff ar y safle yng Nghaerffili

Mae gŵr o dde Cymru wedi ei gael yn euog o droseddau gwastraff ar ôl pledio'n euog i ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar dri safle gwahanol ar draws Cymru, yn dilyn ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Stephen Williams, o Ben-y-bont ar Ogwr oedd unig gyfarwyddwr dau gwmni gwaredu gwastraff, Wenvoe Environmental Limited a Servmax Limited.

Plediodd yn euog yn gyntaf i ollwng gwastraff a reolir drwy ddefnyddio cwmnïau heb drwydded amgylcheddol ar safleoedd yng Nghaerffili, y Bont-faen a Dolgellau rhwng Hydref 2018 a Hydref 2019 yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Chwefror y llynedd.

Roedd y cyhuddiadau yn erbyn Mr Williams, a Wenvoe Environmental Limited, yn ymwneud â throseddau cysylltiedig â gweithredu safle gwastraff heb drwydded amgylcheddol, cyfuno neu gymysgu gwastraff cyn ei waredu, a gollwng 1843.32 tunnell o fyrnau cymysg a halogedig o wastraff tecstilau, ar Fferm Pen Yr Heol Las, Caerffili.

Ymwelodd swyddogion CNC â'r safle am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2019, a chanfod swm sylweddol o decstilau gwastraff mewn byrnau ar brif fuarth y fferm, ynghyd â sawl cerbyd â llen ochr yn cynnwys deunydd tebyg yn aros i gael ei ddadlwytho.

Canfu'r swyddogion fod y byrnau o decstilau wedi'u halogi â gwastraff cyffredinol ac ni ellid eu defnyddio fel gwasarn ceffylau (sef y diben honedig yn ôl Mr Williams). 

Gorchmynnwyd Mr Williams ar unwaith gan ein swyddogion i beidio â gollwng unrhyw ddeunydd pellach yno. Ac eto, yn ystod ymweliadau dilynol, canfu swyddogion fod mwy o wastraff wedi cael ei adael ar y safle, ac yn ôl y Gwasanaeth Tân ac Achub roedd hwn yn cael ei ystyried yn risg tân uchel.

Cyflwynwyd rhybudd cyfreithiol i Mr Williams yn gofyn iddo symud yr holl wastraff i safle cyfreithiol erbyn 30 Awst 2019, a methodd yntau â chydymffurfio â hynny. Methodd hefyd â chydymffurfio â chais gan CNC i ddarparu gwybodaeth o dan Adran 71 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Roedd cyhuddiadau pellach yn erbyn Mr Williams a Wenvoe Environmental Limited am droseddau yn ymwneud â derbyn a storio 260 tunnell o wastraff tecstilau halogedig mewn uned ar Ystad Ddiwydiannol Crossways yn y Bont-faen, lle plediodd yn euog i beidio a chymryd y mesurau priodol y byddai wedi bod yn rhesymol iddo, fel brocer gwastraff, eu cymryd er mwyn atal trosedd lle gwnaeth person arall ollwng gwastraff rheoledig.

Ar 1 Mai 2019, canfu'r tirfeddianwyr fod yr uned yn llawn byrnau o wastraff tecstilau yr oedd Mr Williams wedi’u gollwng yn anghyfreithlon a chafodd CNC eu hysbysu.

Cyflwynwyd hysbysiad cyfreithiol ar gyfer y safle, yn ogystal ag i Mr Williams a Wenvoe Environmental Limited, yn eu gorchymyn i symud y gwastraff i gyfleuster gwastraff awdurdodedig. Methodd Mr Williams â chydymffurfio â'r hysbysiad, gan adael i’r perchnogion rhydd-ddaliadol symud y gwastraff eu hunain am gost bersonol o £48,790.

Roedd y cyhuddiadau terfynol yn erbyn Mr Williams a'i ail gwmni, Servmax Limited, yn gysylltiedig â throseddau am ollwng gwastraff yn Hengwrt yn Nolgellau, a gweithredu cyfleuster gwastraff heb drwydded amgylcheddol.

Ymwelodd swyddogion CNC â'r safle yn Hengwrt am y tro cyntaf ym mis Hydref 2019.  Yn debyg i'r safleoedd yng Nghaerffili a'r Bont-faen, daethant o hyd i wastraff tecstilau wedi’i ollwng yn anghyfreithlon, oedd yn cynnwys dillad, carpedi, isgarpedi, ewyn a matresi. Dangosai gwaith papur fod 527 tunnell o wastraff wedi cael ei ollwng ar y safle.

Cyflwynwyd hysbysiad cyfreithiol i Servmax Limited yn ei gwneud yn ofynnol iddynt symud y gwastraff o'r safle, a methodd Mr Williams â chydymffurfio â hyn.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddoe (dydd Mercher 21 Awst), fe wnaeth y Barnwr oedi’r ddedfryd er mwyn gallu pennu amserlen Cais Enillion Troseddau ar gyfer adennill arian oddi wrth Mr Williams, er mwyn clirio’r safleoedd yng Nghaerffili a Hengwrt, ac ad-dalu’r perchnogion tir yn y Bont-faen.

Bydd Mr Williams yn cael ei ddedfrydu maes o law.

Meddai Su Fernandez, Uwch Swyddog Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru: 

Mae rheoliadau amgylcheddol yno am reswm. Mae angen trwyddedau i fusnesau sy'n symud ac yn storio gwastraff, er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw'n peri risg i'r amgylchedd nac i iechyd pobl.
Rydym yn gweithio'n agos â gweithredwyr i wneud yn siŵr bod gweithgareddau'n cydymffurfio â'r gyfraith ac yn darparu cefnogaeth ac arweiniad pan fo angen.
Mae gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yn tanseilio busnesau sy'n cydymffurfio â rheoliadau ac yn buddsoddi yn y mesurau gofynnol.
Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd y camau priodol i ddiogelu pobl a natur ac i helpu i ddiogelu'r farchnad ar gyfer gweithredwyr cyfreithlon.

Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu defnyddiwch y ffurflen adrodd ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad