Cam mawr ymlaen yn y gwaith o glirio cychod segur o Aber Afon Dyfrdwy
Mae nifer o gychod segur wedi’u symud o Aber Afon Dyfrdwy fel rhan o ymdrech gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gael gwared ar ddeunyddiau a allai fod yn beryglus o’r amgylchedd.
Mae'r gwaith clirio yn rhan hanfodol o'r Prosiect Atal Sbwriel Môr a Hen Gychod Segur sy'n ceisio adfer iechyd Aber Afon Dyfrdwy. Drwy gael gwared ar y cychod segur a’r malurion hyn, mae CNC yn cefnogi’r gwaith parhaus i warchod yr ecosystem fregus sy’n cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt yn yr ardal.
Cwblhawyd y gwaith clirio gan swyddogion CNC fel rhan o’u Diwrnod Gwirfoddoli Amgylcheddol blynyddol. Llwyddodd y tîm i symud tri chwch RIB, hanner cwch gwydr ffibr, a sawl llong arall a chanddynt ddifrod sylweddol. Roedd y gwaith clirio’n ymdrin â mwy na dim ond cychod, gan gael gwared ar amrywiaeth o eitemau fel matresi, microdonau, sbwriel cyffredinol, a rhwydi pysgota, sy'n peri risgiau sylweddol i fywyd gwyllt a'r amgylchedd lleol.
Mae hen gychod segur sydd wedi’u gadael o amgylch arfordir Cymru yn achosi problemau helaeth mewn ardaloedd morol gwarchodedig gan greu problemau fel colli cynefin, yn ogystal â rhyddhau microblastigau a llygryddion o olew, disel a phaent.
Dywedodd Joanna Soanes, Cynghorydd Prosiect Morol CNC:
“Rydym yn falch ein bod wedi cael gwared ar yr eitemau peryglus hyn gan ei fod yn hanfodol i iechyd Aber Afon Dyfrdwy, a diogelwch y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arno.
“Mae pob ymdrech i glirio yn dod â ni un cam yn nes at aber iachach. Rydym yn falch o weld cydweithwyr CNC yn defnyddio eu Diwrnodau Gwirfoddoli Amgylcheddol blynyddol i gefnogi’r ymdrech hon a helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i’n hamgylchedd naturiol.”
Er bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud, mae'r gwaith clirio ymhell o fod wedi'i gwblhau. Mae gwaith pellach wedi'i gynllunio ar gyfer yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Bydd ymdrechion yn y dyfodol yn canolbwyntio ar y cychod segur mwy o faint sydd ar wasgar ledled Aber Afon Dyfrdwy, gan sicrhau bod yr ardal yn cael ei hadfer yn llwyr.
Mae'r sesiynau clirio parhaus hyn yn rhan o strategaeth ehangach CNC i wella amgylchedd yr aber, gan ddarparu cynefin mwy diogel a glân i fywyd gwyllt, gan hefyd wella'r ardal ar gyfer defnydd hamdden gan y cyhoedd.
Rhagor o wybodaeth am Aber Afon Dyfrdwy.