Prosiect mawr i adfer afon wedi'i gwblhau i hybu bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg

Mae tua 750m o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt fel eogiaid, llyswennod a dyfrgwn wedi'i wella ar Nant Dowlais ym Mro Morgannwg, fel rhan o brosiect mawr gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Nod y prosiect yw adfer prosesau afonol naturiol ar hyd Nant Dowlais, un o lednentydd Afon Elái ger Sain Ffagan, sydd wedi'i cael ei haddasu a'i sythu yn y gorffennol.

Mae'r newidiadau hanesyddol hyn wedi achosi erydiad, sydd wedi golchi graean naturiol i ffwrdd ac wedi arwain at waddodi trwm yn y sianel. Mae'r gwelyau graean hyn yn hanfodol er mwyn cynnal poblogaethau pysgod wrth iddynt deithio i fyny'r afon i silio yn y graean.

Ym mis Gorffennaf, dechreuodd y contractwyr McCarthy Contractors (Bridgend) Ltd ar y gwaith i adfer llwybr naturiol yr afon, gan ailgyflwyno troelliadau a gollwyd ac ychwanegu tua 200m o hyd i’r sianel.

Bydd hyn yn helpu gyda symud gwaddodion o fewn y sianel ac ar yr un pryd yn annog gwelyau graean newydd i ffurfio. Ar ôl cael ei hadfer bydd y sianel hefyd yn gwella'r cysylltiad rhwng yr afon a'i gorlifdir naturiol.

Mae ffensys newydd ac ardal yfed wedi'u gosod i greu parthau clustogi rhwng yr afon a da byw sy'n pori, gan annog llystyfiant glannau’r afon a blodau gwyllt i ffynnu, gan roi hwb i fioamrywiaeth a choridorau natur.

Meddai Rhodri Powell, Cynghorydd Arbenigol o Raglen Adfer Afonydd CNC:

"Mae'r prosiect hwn yn un o'n hymyriadau adfer afonol mwyaf hyd yma a bydd yn gwella Nant Dowlais yn sylweddol.

"Yn y gorffennol, mae afonydd wedi cael eu haddasu er budd pobl heb fawr o feddwl am y canlyniadau i fyd natur. Mewn sawl achos fel yma, achosodd hyn ddirywiad llwyr i gyflwr yr afon a'r cynefin sy’n angenrheidiol i gynnal poblogaethau o bysgod iach.

"Ein nod yw gwrthdroi'r difrod sydd wedi'i wneud drwy adfer afonydd i gyflwr mwy naturiol, fel y gallant gynnal ystod eang o blanhigion a bywyd gwyllt unwaith eto."

Meddai David Letellier, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru:

"Mae maint a chyfradd colli bioamrywiaeth ar draws y wlad yn cyflymu, a rhaid i ni gymryd camau brys i sicrhau dyfodol rhai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig sydd dan fygythiad.

"Nod y prosiect uchelgeisiol hwn yw dod â bywyd yn ôl i Nant Dowlais, ac ar yr un pryd gwella ansawdd y dŵr a datblygu gwytnwch yn wyneb effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.  Mae hyn yn rhan o weledigaeth ehangach Dalgylch Trelái i adfer gwydnwch ecolegol drwy’r holl dirwedd. 

"Mae hon yn enghraifft ardderchog o sut rydym yn gweithio tuag at uchelgeisiau ein cynllun corfforaethol er mwyn bod yn natur bositif erbyn 2030."

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: 

Rwy'n falch iawn pan allwn ariannu prosiectau fel hyn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n hafonydd a bywydau pobl.

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella ansawdd dŵr ac adfer ein hafonydd.  Rwy'n obeithiol y gall y gwersi a ddysgwn o'r gwaith hwn ar Nant Dowlais helpu i lywio mwy o brosiectau fel hyn ledled Cymru.

Mae'r prosiect wedi cael ei gyflawni drwy gydweithio llwyddiannus gyda'r tirfeddianwyr sy'n ffinio â Nant Dowlais, Ystad Plymouth ac Ystad Traherne. Mae'r ddau wedi cefnogi'r prosiect ac wedi hwyluso'r newidiadau i goridor yr afon a'r gorlifdir, gyda chymorth eu ffermwyr tenant.

Ar hyn o bryd mae Nant Dowlais yn methu â chyrraedd statws cyffredinol 'da' o dan Reoliadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cymru a Lloegr) 2017 oherwydd pwysau sy'n gysylltiedig â physgod ac ansawdd y dŵr (ffosffad).

Mae'r prosiect wedi'i gyflawni gan Raglen Adfer Afon uchelgeisiol CNC. Mae hyn yn ceisio adfer afonydd sydd wedi cael eu haddasu ac ailgyflwyno cynefinoedd naturiol sydd wedi'u colli oherwydd gweithgarwch dynol yn y gorffennol.

Ariennir y prosiect gan Raglen Gyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.