Gwahodd trigolion Llanidloes i ddigwyddiad galw heibio i ddysgu am uchelgeisiau i leihau perygl llifogydd a gwella'r amgylchedd yn nalgylch Hafren Uchaf
Cynhelir sesiwn galw heibio ddydd Mawrth 26 Tachwedd i hysbysu trigolion Llanidloes am uchelgeisiau Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS) i leihau perygl llifogydd a gwella'r amgylchedd yn nalgylch Hafren Uchaf.
Gall preswylwyr alw heibio ar unrhyw adeg rhwng 2-7pm i ddysgu mwy am y cynllun ac i ofyn cwestiynau.
Mae'r SVWMS yn bartneriaeth rhwng sefydliadau blaenllaw, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Sir Amwythig. Gyda'i gilydd, eu nod yw lleihau perygl llifogydd, gwella rheolaeth dŵr a chefnogi'r amgylchedd naturiol ar draws rhanbarth Hafren Uchaf.
Ewch i wefan newydd y SVWMS i weld diweddariadau, rhannu eich mewnbwn, a chadw mewn cysylltiad â chynnydd y prosiect.
Trwy gyfuno dulliau arloesol a chydweithio cymunedol, nod y SVWMS yw cyflawni:
- gwell rheoli perygl llifogydd: Arafu llif dŵr i fyny'r afon i amddiffyn cymunedau i lawr yr afon.
- bioamrywiaeth gyfoethog: Cynefinoedd newydd fel gwlyptiroedd a choetiroedd i gynnal bywyd gwyllt.
- gweithredu hinsawdd: Hybu storio carbon a gwytnwch yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
- ymgysylltu â'r gymuned - Cyfleoedd i gymryd rhan a chymryd balchder mewn cadwraeth leol.
- diogelwch economaidd: Lleihau'r risg i fusnesau a seilwaith o ganlyniad i ddifrod llifogydd costus.
Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol ond pwysig wrth i ni wynebu argyfwng hinsawdd a natur. Rydym yn gweld digwyddiadau tywydd garw, megis llifogydd a chyfnodau o sychder, yn digwydd yn amlach nag yr ydym wedi’i brofi yn y degawdau diwethaf.
Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS) yn edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o ategu ein gweithgareddau rheoli perygl llifogydd a helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn ymhellach drwy ddefnyddio dulliau rheoli llifogydd naturiol i leihau’r perygl o lifogydd neu sychder drwy weithio gyda systemau naturiol.
Mae CNC a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r SVWMS yn brosiect a allai roi atebion ychwanegol tymor hwy i ni i reoli dŵr yn nalgylch Hafren yn gynaliadwy. Rydym yn croesawu’r cyfle i gymunedau helpu i liwio’r cynllun.
Dywedodd David McKnight, Rheolwr Risg Llifogydd Ardal ac Arfordirol Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer Gorllewin Canolbarth Lloegr:
“Mae cyflawni’r SVWMS yn ateb hirdymor i reoli dŵr yn gynaliadwy ac mae ganddo’r potensial i amddiffyn miloedd o gartrefi a busnesau yn well rhag perygl llifogydd ar draws dalgylch afon Hafren uchaf yng Nghymru a Lloegr.
“Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r cynnydd wrth iddo gael ei wneud, ac i bobl gyfrannu ac ymgysylltu â ni wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Rydym eisiau clywed gan bob rhan o gymuned Hafren wrth i ni gychwyn ar y strategaeth bod angen i’r dalgylch allu addasu i’n hinsawdd newidiol a pharhau i ffynnu.
“Bydd gwefan newydd SVWMS yn adnodd dibynadwy ac addysgiadol i unrhyw un sydd am ymgysylltu â phartneriaid a byddwn yn diweddaru manylion lleoliad ein sesiynau galw heibio cymunedol a’n diweddariadau am ddigwyddiadau yno hefyd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, o Gyngor Sir Powys:
"Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn gyfle sylweddol i fynd i'r afael ag effeithiau hinsawdd a brofir yn ein cymunedau ym Mhowys. Rydym yn gyffrous i fod yn bartner yn y cynllun hwn a byddem yn annog cyfranogiad yn y digwyddiadau cymunedol sydd ar ddod i ddysgu mwy am y prosiect a'r cyfleoedd posibl y gallai eu cynnig."
Ychwanegodd y Cynghorydd Ian Nellins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Swydd Amwythig:
“Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion i warchod cymunedau a gwella ein hamgylchedd naturiol.
“Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn mynd i’r afael â’r peryglon llifogydd uniongyrchol ond hefyd yn cefnogi bioamrywiaeth a’n brwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
“Rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn y sesiynau sydd i ddod i ddysgu mwy am yr effeithiau cadarnhaol a ddaw yn sgil y cynllun hwn.”