Dathlwch Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd gyda thaith gerdded dywysedig am ddim yng Nghors Caron
I nodi Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd (2 Chwefror 2022), mae Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd pobl i ymuno â’r dathliad o’u gwlyptiroedd lleol drwy gynnig ymweliad tywysedig â Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron.
Mae Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd yn cael ei ddathlu bob blwyddyn i nodi’r achlysur lle mabwysiadwyd y Gynhadledd ar Wlyptiroedd ar 2 Chwefror 1971 yn ninas Ramsar, Iran. Heddiw, mae safleoedd gwlyptirol pwysicaf y byd wedi’u dynodi’n safleoedd Ramsar.
Mae Cymru’n gartref i sawl math o wlyptir, gan gynnwys ffeniau, cyforgorsydd, corsydd pori, gwernydd, glaswelltiroedd corsiog yn ogystal â llynnoedd, pyllau ac afonydd, wrth gwrs. Mae gwlyptiroedd yn gynefinoedd prin; mewn nifer o ardaloedd o'r DU rydym wedi colli dros 90% o'n cynefin gwlyptir.
Nid yn unig ydyn nhw’n gartref i fywyd gwyllt prin, ond maen nhw hefyd yn darparu llawer o’r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt: dŵr glân, amddiffyniad rhag llifogydd, storfa carbon, ac maen nhw hefyd yn llefydd gwych i bobl fwynhau’r awyr agored.
GNG Cors Caron yn Nhregaron, Ceredigion yw un o’r cyforgorsydd mwyaf yn iseldir Prydain sy’n dal i dyfu, gyda mawn ar ddyfnder o 10medr mewn mannau. Mae wedi’i dynodi’n GNG yn ogystal â safle Ramsar oherwydd ei phwysigrwydd amgylcheddol.
Meddai Jake White, y Swyddog Prosiect ar gyfer Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Mae gan wlyptiroedd ran allweddol i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac felly mae eu rheoli’n effeithiol yn hanfodol. Pan maen nhw yn eu cyflwr delfrydol gallan nhw ddal a storio symiau sylweddol o garbon a fyddai fel arall yn cael ei ryddhau i mewn i afonydd a’r atmosffer.”
“Eleni, fel rhan o Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd, bydd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru CNC yn dathlu pwysigrwydd GNG Cors Caron a’r rôl mae’n ei chwarae o ran cefnogi lles pobl ac amgylchedd Cymru. Ac rydyn ni am i eraill ymuno â ni hefyd.”
Bydd y diwrnod yn dechrau am 10.30yb o’r maes parcio i ymwelwyr gyda thaith gerdded dywysedig am ddim o gwmpas GNG Cors Caron. Bydd y daith yn cymryd tua dwy awr, a bydd angen i ymwelwyr wisgo dillad addas ar gyfer y diwrnod. Bydd holl ragofalon Covid arferol y Llywodraeth yn cael eu dilyn. I archebu eich lle am ddim, ewch i wefan Tocyn Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rheoli sawl safle Ramsar gwlyptirol yng Nghymru. Beth am ymweld ag un eich hun ar Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd, ewch i’r wefan i ddysgu mwy https://naturalresources.wales/days-out/things-to-do/?lang=en