Cau llwybr pren i ymwelwyr Cors Caron yn ystod gwaith adfer
Bydd contractwyr sy’n gweithio ar ran Prosiect Cyfgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau ar y gwaith yr wythnos hon i ailosod y llifddor sydd wedi torri ac ailosod rhannau o’r llwybr pren yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron.
Bydd rhan o’r prif lwybr pren i ymwelwyr tuag at y llifddor ar y safle ar gau am hyd at ddau fis o fis Chwefror er mwyn cwblhau’r gwaith i sicrhau diogelwch y gweithwyr a’r bobl sy’n ymweld â’r warchodfa a’r gors.
Bydd ymwelwyr yn dal i allu cael mynediad i’r prif lwybr pren o fynedfa’r Bwa Helyg ac allan i Guddfan y Gors, a bydd mynediad hefyd yn parhau i fod ar gael ar gyfer Llwybr Glan yr Afon.
Bydd maes parcio’r warchodfa’n parhau ar agor tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, yn ogystal â llawer o’r llwybrau cerdded a’r hawliau tramwy cyhoeddus eraill yn y warchodfa.
Mae'r llifddor presennol wedi'i wneud o bren ac mae'n rheoli lefelau dŵr a llif y dŵr ar y warchodfa. Fe'i gwnaed o bren yn llithro mewn rhigolau sydd wedi'u gosod yn y ffrâm bren y mae'n eistedd ynddi, yna adeiladwyd y llwybr ymwelwyr ar ei ben.
Mae’n bosibl bod ymwelwyr â’r warchodfa wedi sylwi ar lefelau dŵr isel ar y safle dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn bennaf oherwydd effeithiau’r llifddor sydd wedi torri sydd wedi dirywio ers ei gosod gyntaf yn 2005.
Bydd rhannau o'r llwybr pren sydd hefyd wedi dirywio dros y blynyddoedd hefyd yn cael eu hadnewyddu ar yr un pryd ag y bydd gwaith atgyweirio i'r llifddorau yn digwydd er mwyn lleihau'r aflonyddwch i ymwelwyr. Cânt eu disodli gan estyll plastig wedi'u hailgylchu, fel sydd wedi'i wneud yn barod ar rai rhannau o'r llwybr pren.
Dywedodd Jake White, swyddog Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Rydyn ni’n gwybod o sgyrsiau rydyn ni wedi’u cael gydag ymwelwyr bod llawer o bryder wedi bod am y lefelau dŵr isel ar y warchodfa. Bydd y gwaith i atgyweirio’r llifddor yn adfer lefelau’r dŵr, gan helpu i gadw’r mawndir yn wlyb drwy gydol y flwyddyn, gan adfer cynefinoedd mawndir yn ogystal â storio carbon.”
Dywedodd Iestyn Evans, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae miloedd o ymwelwyr yn ymweld â Chors Caron bob blwyddyn a gobeithiwn y bydd yr aflonyddwch byr hwn yn arwain at y warchodfa yn dychwelyd i’w hen ogoniant ac yn gwella profiad ymwelwyr â’r safle am sawl blwyddyn arall.”
Ar ôl i'r gwaith ddigwydd bydd y prosiect LIFE yn parhau i fonitro adferiad y safle gyda'r nod o'i wneud yn fwy gwydn a helpu i storio mwy o garbon yn wyneb pwysau cynyddol newid hinsawdd.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru/Adfywio Cyforgorsydd Cymru