Buddsoddi yn ein hafonydd i wrthdroi dirywiad eogiaid a siwin
Mae prosiectau sydd wedi'u cynllunio i warchod bywyd gwyllt mewn rhai o afonydd mwyaf gwerthfawr Cymru wedi cael y golau gwyrdd, diolch i hwb ariannol o fwy na £1.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae stociau eogiaid a siwin mewn cyflwr peryglus yng Nghymru, gyda'r niferoedd yn is nag erioed yn ein hafonydd a'n nentydd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno cynllun i warchod ac adfer y poblogaethau o eogiaid a siwin yn afonydd Cymru.
Bydd yr arian hwn yn ein helpu i weithredu ar sail y cynllun hwnnw.
Bydd CNC yn gweithio gydag Afonydd Cymru a'r chwe Ymddiriedolaeth Afonydd yng Nghymru ar ystod o brosiectau gan gynnwys adfer cynefinoedd nentydd, cael gwared ar rwystrau i fudo a gwella ansawdd dŵr mewn afonydd ledled Cymru.
Mae pob un o'r Ymddiriedolaethau wedi gweithio'n agos gyda staff CNC i nodi a blaenoriaethu'r gwaith sydd ei angen.
Dyma rai o’r prosiectau allweddol a fydd bellach yn mynd rhagddynt:
• Datgymalu rhwystrau fel y gall eogiaid fudo ymhellach i fyny'r afon, fel y gored ym Melin Vicars ar afon Cleddau Ddu yn Sir Benfro.
• Ffensio ardaloedd ar hyd afonydd ledled Cymru, fel na fydd stoc yn cyfrannu tuag at erydu glannau afonydd.
• Tynnu rhwystrau fel malurion pren a phlastigau o afonydd ledled Cymru.
Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol CNC:
“Mae eogiaid yn rhan werthfawr o fywyd gwyllt Cymru, ac mae poblogaethau o stociau eogiaid iach yn bwysig yn ddiwylliannol ac yn economaidd i Gymru hefyd. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod gan Gymru boblogaeth gynaliadwy o eogiaid a siwin am flynyddoedd i ddod.
"Bydd y cyllid hwn o fwy nag £1m, ynghyd â rhaglen waith y mae CNC ei hun yn ei ddatblygu, yn ein helpu i fynd ymhellach, yn gyflymach a bydd yn gwneud gwahaniaeth i'r gwaith yr ydym ni a'n partneriaid yn ei wneud bob blwyddyn.
“Dim ond trwy barhau i gymryd camau ar y cyd, ar lefel afon gyfan, y gallwn amddiffyn y rhywogaethau eiconig hyn yn llwyddiannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Dywedodd Dr Stephen Marsh-Smith ar ran Afonydd Cymru:
“Mae'r prosiect hwn yn gyfle pwysig i fynd i'r afael â llawer o'r problemau ar draws afonydd Cymru.
"Mae'n gam sylweddol ymlaen mewn cydweithredu a chydlynu rhwng Ymddiriedolaethau Afonydd a CNC, gyda'r ddarpariaeth ar y safle wedi'i datganoli i bob ymddiriedolaeth ranbarthol. Rydym yn edrych ymlaen at adrodd ar ôl ei gwblhau a gweld y buddion o fewn pysgodfeydd Cymru.”