Casglwr cocos anghyfreithlon wedi ei ddal ar ôl dianc mewn cerbyd 4x4

Achos llys pysgodfeydd Abertawe

Mae dyn o Abertawe wedi cael gorchymyn i dalu bron i £1,000 ar ôl methu â stopio pan ofynnwyd iddo wneud wrth gasglu cocos heb drwydded ddilys mewn ardal a reoleiddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghilfach Tywyn.

Ar 16 Mehefin, 2023, roedd swyddogion gorfodi CNC, ynghyd â swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt o Heddlu Dyfed Powys, yn patrolio Gogledd Gŵyr pan gawsant adroddiad yn nodi bod rhywun yn casglu cocos yn anghyfreithlon yn ardal Llanmadog.

Aeth y swyddogion i Lanmadog lle gwelon nhw Stefan Swistun, o Fanc Bach, Penclawdd, Abertawe, yn casglu cocos heb drwydded ddilys.

Wrth i'r swyddogion nesáu at Swistun a dweud pwy oedden nhw, ceisiodd guddio ei wyneb a phan ofynnwyd iddo stopio'r hyn yr oedd yn ei wneud, ffodd yn ei gerbyd 4x4.

Ar ôl gyrru ar hyd y traeth, cuddiodd Swistun ei gerbyd mewn cildraeth tywodlyd diarffordd lle cafodd ei ddarganfod gan y swyddogion gorfodi yn dilyn chwiliad helaeth o'r ardal.

Cafodd Swistun ei ddal pan ddychwelodd i symud y cerbyd cyn i'r llanw gyrraedd y traeth. Rhoddwyd rhybuddiad iddo ar y safle ac atafaelwyd ei offer casglu cocos.

Yn Llys Ynadon Abertawe, ar 22 Awst, cyhuddwyd Swistun o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 o fethu â chydymffurfio â chais Swyddog Gorfodi i stopio ar y safle.

Cyfaddefodd y drosedd a chafodd ddirwy o £345 (wedi'i ostwng oherwydd ple cynnar), a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £500 a gordal dioddefwr o £138, sef cyfanswm o £938 i'w dalu ar gyfradd o £100 y mis.

Rhoddwyd gorchymyn hefyd i atafaelu’r offer a ddefnyddiwyd i gasglu'r cocos.

Dywedodd Alun Thomas, Uwch Swyddog Gorfodi CNC:

"Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu pysgodfa cregyn Cilfach Tywyn trwy ddiogelu stociau pysgod cregyn, yr amgylchedd a bywoliaeth casglwyr pysgod cregyn trwyddedig trwy weithio gyda'r heddlu i batrolio'r ardal yn rheolaidd.

"Mae'r gosb ddiweddaraf hon a osodwyd gan y llys yn anfon neges glir na fydd troseddau yng Nghilfach Tywyn yn cael eu goddef ac y bydd troseddwyr yn profi grym y gyfraith i’r eithaf.

"Bydd CNC yn parhau i gymryd camau priodol yn erbyn pobl sy'n torri'r gyfraith ar welyau cocos Cilfach Tywyn a byddai'n annog pobl i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch unrhyw fath o bysgota cregyn anghyfreithlon neu weithgaredd anghyfreithlon arall trwy ffonio ein Llinell Gymorth Digwyddiadau ar 03000 65 3000."

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig