Trawsnewid Hanesyddol: Mae afon Dyfrdwy wedi’i hadfywio diolch i dynnu cored Erbistog

Mae afon Dyfrdwy gam yn nes at ei chyflwr naturiol ar ôl cael gwared ar gored Erbistog, rhan allweddol o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy.

Mae cael gwared ar gored Erbistog yn garreg filltir arwyddocaol i raglen LIFE Afon Dyfrdwy, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnig cyfnod newydd o waith adfer ecolegol ar gyfer afon Dyfrdwy. Mae'r gwaith gorffenedig eisoes wedi dangos arwyddion addawol, gyda gwelliannau i'w gweld ym morffoleg yr afon, sy’n nodi ei bod yn dychwelyd i gyflwr mwy naturiol.

Mae cael gwared ar y gored wedi agor llwybr dirwystr i bob rhywogaeth o bysgod yn afon Dyfrdwy, gan wella bioamrywiaeth a chynnal ecosystemau’r afon. Mae arsylwadau cynnar yn nodi newidiadau nodedig yn llif yr afon a dosbarthiad gwaddod, y disgwylir iddynt fod o fudd pellach i fywyd gwyllt lleol a gwella ansawdd cyffredinol yr afon.

Mae Heneb, Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, wedi bod yn rhan o'r prosiect ac wedi darparu mewnwelediadau hollbwysig yn ystod y cyfnodau cynllunio a gweithredu. Datgelodd ei hymchwiliad i hanes y gored, yn groes i’r hyn a gredwyd yn gynt, fod yr adeiledd wedi'i adeiladu ar ôl 1850. Mae’r canfyddiad hwn, sy’n deillio o archwilio deunyddiau adeiladu ac arteffactau hanesyddol a ddarganfuwyd ar y safle, wedi mireinio ein dealltwriaeth o effaith y gored ar yr afon.

Cwblhawyd y gwaith i gael gwared ar y gored gan y contractwr S.E. Metcalfe a’i Gwmni, bedair wythnos yn gynt na’r disgwyl, gan sicrhau bod y prosiect amgylcheddol pwysig hwn yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus ac ar amser.

Dywedodd Gethin Morris, Uwch-swyddog Adfer Afonydd LIFE Afon Dyfrdwy:

“Rydym wrth ein bodd o weld y prosiect i gael gwared ar gored Erbistog wedi’i gwblhau. Mae’r cyflawniad hwn nid yn unig yn gam mawr ymlaen wrth adfer afon Dyfrdwy ond mae hefyd yn dangos ymrwymiad pawb sy’n ymwneud â’n prosiect LIFE Afon Dyfrdwy.
“Mae’r newidiadau cadarnhaol rydyn ni eisoes yn eu gweld yn afon Dyfrdwy yn dyst i waith caled a chydweithrediad ein partneriaid a’n contractwyr. Bydd cael gwared ar y gored yn helpu i drawsnewid afon Dyfrdwy a’i dalgylch trwy ei hadfer a’i chyffiniau yn ôl i’w cyflwr naturiol.”