Dull ffres o adfer cynefinoedd morfa heli gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae gwaith i adfer y morfa heli ar draws Glanfa Fawr Rhymni yn mynd rhagddo, gyda’r uchelgais o gynyddu bioamrywiaeth a gwytnwch yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Aber Afon Hafren a lleihau’r perygl o lifogydd.

Bydd swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adnewyddu ac ymestyn polder gwaddodi yn yr ardal fel rhan o’r cynlluniau adfer. Mae'r dyluniad polder wedi'i fireinio yn annog sefydlu cynefin morfa heli trwy greu ffensys wedi'u gwneud o byst castanwydd a bwndeli o bren brwsh. Mae'r strwythurau hyn, sy'n ymestyn dros 2km ar hyd y blaendraeth, yn arafu symudiad y llanw wrth iddo gilio, gan ganiatáu i waddod gael ei ddyddodi yn y caeau polder.

Dros amser, mae llaid a thywod yn cronni ac yn troi'n forfa heli. Bydd hyn yn helpu i adfer cynefin morfa heli pwysig Aber Afon Hafren, gan gefnogi bywyd gwyllt lleol a helpu i ddal carbon. Gallai'r ateb hwn sy'n seiliedig ar natur hefyd helpu i wella'r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd a lleihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol drwy leihau pwysau o erydiad.

Dywedodd Lily Pauls, arweinydd tîm ar gyfer prosiectau morol yn CNC:
“Bydd helpu i wella’r amodau ar draws Glanfa Fawr Rhymni yn cefnogi’r gwastadedd llaid a’r morfa heli i ailgyflenwi eu hunain a chreu amodau gwell ar gyfer y bywyd gwyllt sy’n byw ynddynt ac o’u cwmpas. Mae'r cynefinoedd hyn mor werthfawr am gymaint o resymau. Yn ecolegol, maent yn cynnal popeth o blanhigion arbenigol i adar a physgod, felly maent yn chwarae rhan hanfodol mewn cadwraeth natur ac yn rhan mor bwysig o’r arfordir ar hyd yr aber.
“Gall morfeydd heli iach hefyd ddarparu amddiffyniad rhag llifogydd, dal carbon i helpu yn erbyn newid yn yr hinsawdd, fel y gallant wneud cyfraniad pwysig a chadarnhaol at ddiogelu rhag yr argyfwng hinsawdd.”

Ariennir y prosiect hwn drwy raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru ac mae’n cyfrannu at yr uchelgais o sefydlu cynlluniau wedi’u targedu i gefnogi adfer cynefinoedd morfa heli ar hyd arfordir Cymru.