Pedwar dyn yn cael dirwy o £6,000 am bysgota anghyfreithlon ‘barbaraidd’ drwy gamfachu
Mae pedwar dyn a gafodd eu dal yn defnyddio dull pysgota barbaraidd ac anghyfreithlon gan swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystod patrolau ar Afon Llwchwr, ger Llanelli, wedi cael dirwy o £6,000.
Ymddangosodd pob un ohonynt gerbron Llys Ynadon Llanelli ar 16 a 17 Mehefin gan bledio'n euog i'r drosedd o gamfachu, a waherddir o dan Adran 1 Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.
Cawsant ddirwy o £6,000 a gorchmynnwyd iddynt dalu £10,300 i CNC am gostau’r ymchwiliad.
Cafodd y dynion eu dal gan swyddogion gorfodi pysgodfeydd CNC a oedd yn cynnal patrolau ar lannau Afon Llwchwr yn haf 2021, gan weithio i fynd i'r afael â chamfachu ac atal yr arfer.
Roedd pob pysgodyn a oedd wedi'i ddal gan ddefnyddio'r dull wedi'i fachu ar ei gynffon, ei gefn neu ei ystlys. Cafodd yr holl offer pysgota a’r pysgod a ddaliwyd yn anghyfreithlon eu cymryd gan CNC a'u hatafaelu'n ddiweddarach gan y llys.
Meddai Alun Thomas, Uwch Swyddog Gorfodi Pysgodfeydd ar gyfer CNC:
"Mae camfachu yn farbaraidd, anfoesol ac anghyfreithlon. Mae'r dull hwn o bysgota nid yn unig yn annethol o ran pa rywogaethau neu faint y pysgod sy'n cael eu lladd, ond mae hefyd yn achosi niwed dychrynllyd i nifer anhysbys o bysgod sy'n debygol o farw o'u hanafiadau yn fuan ar ôl eu dal. Mae hyn yn aml yn cael ei waethygu drwy ddefnyddio llithiau pysgota sydd wedi'u haddasu’n fwriadol.
"Mae Swyddogion Gorfodi Pysgodfeydd CNC a'r heddlu yn cymryd y digwyddiadau hyn o ddifrif, fel y mae'r llysoedd. Gobeithio y bydd y lleiafrif bach o bysgotwyr sy'n ystyried defnyddio dulliau pysgota anghyfreithlon yn cymryd sylw o'r dirwyon trwm a gyflwynwyd gan y llysoedd."
Daliwyd Romuald Krzysztof Biernacki o Ddwyfor, Llanelli, yn pysgota drwy gamfachu ar 4 Gorffennaf 2021. Roedd wedi dal pedwar hyrddyn a chwe lleden fwd yn anghyfreithlon.
Cafodd Biernacki ddirwy o £1,500 a gorchmynnwyd iddo dalu rhan o gostau ymchwilio CNC o £2,500.
Teithiodd Hung Van Tran o’i gartref ar Gibson Road yn Handsworth, Birmingham, i bysgota ar afon Llwchwr ar 25 Awst 2021. Canfu swyddogion gorfodi pysgodfeydd CNC ei fod wedi dal pedwar hyrddyn yn anghyfreithlon gan ddefnyddio’r dull camfachu.
Cafodd Hung Van Tran ddirwy o £1,500 a gorchymyn i dalu rhan o gostau ymchwilio CNC o £1,800.
Cafodd Duc Duy Tran o Heol Brithweynydd, Tonypandy, a Tan Van Tran o Stryd Pentrebane, Caerffili, eu dal yn ystod un o batrolau eraill swyddogion gorfodi pysgodfeydd CNC, ynghyd â Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt Heddlu Dyfed-Powys ar 6 Medi 2021.
Roedd Duc Duy Tran wedi dal 14 o hyrddod yn anghyfreithlon a chafodd ddirwy o £1,500. Rhaid iddo hefyd dalu £3,000 i CNC ar gyfer costau’r ymchwiliad.
Roedd Tan Van Tran wedi dal pedwar hyrddyn yn anghyfreithlon. Cafodd ddirwy o £1,500, yn ogystal â £3,000 ar gyfer costau ymchwilio CNC.
Ychwanegodd Alun Thomas:
"Hoffem ddiolch i Heddlu Dyfed-Powys, y gymuned leol a physgotwyr sy'n cadw at y gyfraith yn yr ardal am eu cefnogaeth barhaus wrth adrodd am y gweithgareddau pysgota anghyfreithlon hyn. Fe'u hanogaf i barhau i adrodd am weithgarwch o'r fath a byddwn ninnau’n ymchwilio.
"Byddem yn annog unrhyw un sy'n mynd i bysgota i ymgyfarwyddo â'r rheolau a'r rheoliadau cyn mynd."
Os byddwch yn gweld unrhyw weithgarwch amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, rhowch wybod i linell gymorth digwyddiadau CNC 24/7 ar 0300 065 3000 neu drwy’r wefan https://naturalresources.wales/about-us/contact-us/report-an-environmental-incident/?lang=cy.