Pysgotwr oedd yn pysgota’n anghyfreithlon wedi'i wahardd rhag gyrru am 12 mis fel rhan o’i gosb
Mae dyn o Ferthyr Tudful a deithiodd i Afon Llwchwr, ger Llanelli, i bysgota gan ddefnyddio dull barbaraidd ac anghyfreithlon wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 12 mis fel rhan o'i ddedfryd.
Plediodd Vu Quang Tien yn euog i gyhuddiad o bysgota anghyfreithlon, a hefyd i gyhuddiad o rwystro Swyddog Gorfodi Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar 26 Ebrill yn Llys Ynadon Abertawe.
Gwelwyd Mr Tien, a dau bysgotwr arall, gan Swyddogion Gorfodi CNC, yn defnyddio'r dull bachu anghyfreithlon o bysgota – a elwir yn ‘camfachu’ yn Gymraeg ac yn ‘foul hooking’ neu’n ‘snatching’ yn Saesneg – yn afon Llwchwr ar 15 Awst 2021. Aeth swyddogion CNC i'r safle ar ôl i ganolfan alwadau 24/7 CNC dderbyn sawl adroddiad gan aelodau o’r gymuned ynghylch pysgota anghyfreithlon.
Pan aeth swyddogion CNC at Mr Tien a’i gyd-bysgotwyr i’w holi, roeddent yn elyniaethus ac yn amharod i rannu dogfennau adnabod – bu'n rhaid defnyddio grym rhesymol i gael y dogfennau hyn yn y pen draw.
Cafodd holl dacl pysgota a physgod Mr Tien, ynghyd â thacl pysgota ei gyd-bysgotwyr, eu hatafaelu gan Swyddogion CNC adeg y digwyddiad. Rhoddodd y barnwr yn Llys Ynadon Abertawe ganiatâd i CNC gadw'r eitemau hyn oddi wrth y diffynyddion yn barhaol.
Fe wnaeth y barnwr wahardd Mr Tien rhag gyrru am 12 mis oherwydd difrifoldeb y digwyddiad, ac oherwydd y weithred fwriadol o deithio pellter o'r fath i gyflawni'r drosedd.
Gorchmynnwyd Mr Tien hefyd i dalu cyfanswm o £2,334 o ddirwyon, costau CNC, a gordal dioddefwr.
Dywedodd Mark Thomas, Swyddog Gorfodi Pysgodfeydd CNC:
"Hoffem ddiolch eto i Heddlu Dyfed Powys, y cymunedau lleol, a hefyd i bysgotwyr sy'n cadw at y gyfraith yn yr ardal am eu cefnogaeth barhaus wrth adrodd am y gweithgareddau pysgota anghyfreithlon hyn.
"Mae camfachu yn fath gwirioneddol farbaraidd o bysgota a wneir gan leiafrif bach o bysgotwyr yng Nghymru – pysgotwyr nad ydynt yn poeni dim am les pysgod.
"Mae CNC a'r Heddlu yn cymryd y digwyddiadau hyn o ddifrif – ac felly hefyd y llysoedd.
"Gobeithio y bydd y lleiafrif bach o bysgotwyr a allai, yn y dyfodol, feddwl am ddefnyddio dulliau pysgota anghyfreithlon yn cymryd sylw o'r dirwyon trwm a'r gwaharddiad gyrru a gyhoeddwyd gan y llys yn yr achos hwn."
Os gwelwch unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, llynnoedd, camlesi neu gronfeydd dŵr, rhowch wybod i linell gymorth digwyddiadau 24/7 CNC ar: 0300 065 3000.