Dirwy i ffermwr am lygru llednentydd Afon Trelái

Nant wedi'i lygru gan waddod

Mae ffermwr wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am lygru darn dwy filltir o nant ger Castellau, Rhondda Cynon Taf mewn modd byrbwyll.

Plediodd Mr Huw Pritchard o fferm Castellau Fach yn euog o achosi llygredd silt yn Nant Castellau, sy'n llifo i Nant Muchudd, sy’n un o lednentydd Afon Trelái.

Yn dilyn adroddiadau ym mis Hydref 2022 gan aelodau o'r cyhoedd am ddŵr afliwiedig yn y nant ger Capel Castellau, datgelodd ymchwiliad CNC fod y nant yn cael ei llygru gan silt oedd yn dod o waith adeiladu ger Nant Castellau ar dir gerllaw The Croft ar Heol Castellau.

Dywedwyd wrth y llys fod Mr Pritchard yn adeiladu pwll a hefyd glannau ger y nant er mwyn ceisio datrys problemau llifogydd. Ond nid oedd ganddo’r caniatâd angenrheidiol gan CNC ac nid oedd wedi rhoi mesurau atal llygredd ar waith i atal dŵr llawn silt rhag mynd i mewn i'r cwrs dŵr.

Mae lefelau uchel o solidau crog mewn afonydd yn gwaethygu ansawdd y dŵr ac yn niweidio'r ecoleg, gan ladd y rhan fwyaf o'r  pryfed yn y darn yr effeithir arno, a gall lefelau uchel iawn hefyd ladd pysgod.

Mae llygredd silt hefyd yn lleihau lefel yr ocsigen yn y dŵr ac yn rhwystro twf planhigion trwy leihau faint o olau sy'n treiddio drwy'r dŵr. Gall siltio hefyd effeithio ar silfeydd pysgod drwy fygu gwelyau graean a llenwi'r tyllau rhwng y cerrig, gan arwain at lai o silio a llai o wyau pysgod yn deor.

Yn y gwrandawiad dedfrydu ym Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 31 Gorffennaf 2024, cafodd Mr Pritchard ddirwy o £250 gyda gordal dioddefwr o £100 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £850 i CNC.

Mae lefel y ddirwy am droseddau amgylcheddol yn cael ei phennu gan y llysoedd ac yn seiliedig ar fodd ariannol y diffynyddion. Cadarnhaodd cyfreithiwr Mr Pritchard wrth y llys mai dim ond £150 yr wythnos yr oedd yn ei wneud fel ffermwr.

Meddai Fiona Hourahine, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

“Rydym mewn argyfwng natur felly mae ein gwaith i amddiffyn ein hafonydd rhag llygredd yn bwysicach nag erioed.
“Er bod Mr Pritchard wedi bod yn cydweithio â ni yn ystod ein hymchwiliad, roedd y gwaith adeiladu a wnaeth, mor agos at y nant heb ein caniatâd nac unrhyw fesurau lliniaru ar waith i amddiffyn y nant, yn fyrbwyll.
“Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn pobl y mae eu gweithredoedd yn llygru afonydd Cymru, yn niweidio'r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt lleol.
“Hoffem ddiolch i'r bobl a roddodd wybod inni am y llygredd drwy ein llinell gymorth digwyddiadau, a olygodd ein bod yn cael cyfle i weithredu'n gyflym er mwyn atal rhagor o lygredd.”

Dylid rhoi gwybod i CNC am achosion o lygredd drwy ffonio’r llinell gymorth 24 awr ar gyfer digwyddiadau ar 03000 65 3000 neu roi gwybod ar-lein.