Ffermwr yn cael dirwy a gorchymyn cymunedol am droseddau gwastraff

Gwastraff cymysg yn cynnwys teiars, pren a gwastraff cartref

Mae ffermwr wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am ddyddodi a llosgi tunelli o wastraff ar ei dir yn Ynys-y-bwl heb drwydded amgylcheddol.

Cafodd Kieran Price, 65, a blediodd yn euog i ddwy drosedd wastraff, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 23 Medi 2024.

Am ddyddodi’r gwastraff, cafodd orchymyn cymunedol 12 mis yn cynnwys goruchwyliaeth (apwyntiadau rheolaidd gyda’r gwasanaeth prawf) a 10 diwrnod o adsefydlu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd rhan mewn gweithgaredd, er enghraifft hyfforddiant neu addysg, i leihau’r tebygolrwydd y bydd yn aildroseddu. Am yr ail drosedd, cafodd yr un ddedfryd i gydredeg.

Yn ogystal â’r gorchymyn cymunedol, cafodd Mr Price ddirwy o £281, yn ogystal â chyfraniad o £160 tuag at gostau’r erlyniad a gordal dioddefwr o £114. Mae lefel y ddirwy am droseddau amgylcheddol yn cael ei phennu gan y llysoedd ac yn seiliedig ar fodd ariannol y diffynnydd.

Dechreuodd achos CNC yn erbyn Mr Price yn gynnar yn 2022 pan ymwelodd swyddogion â’r fferm yn dilyn sawl adroddiad o wastraff yn cael ei ddyddodi a’i losgi ar ei dir ar Fferm Gilfach Glyd, Mill Road, Ynys-y-bwl.

Yn ystod yr ymweliad cychwynnol, gwelodd swyddogion CNC bentyrrau mawr o wastraff rheoledig (gwastraff sy’n destun rheolaeth ddeddfwriaethol) wedi’i ddyddodi, yn cynnwys byrnau o hen deiars a gwastraff adeiladu a dymchwel.

Canfu ymchwiliad y swyddogion nad oedd unrhyw drwyddedau nac esemtiadau gwastraff cyfreithlon wedi’u cofrestru ar y safle a fyddai wedi caniatáu iddo storio, didoli neu losgi’r gwastraff yn gyfreithlon.

Mewn ymweliadau dilynol ar ddechrau 2023, daethpwyd o hyd i 148 o fyrnau teiars, gyda 30 ohonynt wedi’u claddu’n rhannol yn y cae uchaf, ynghyd â gwastraff adeiladu a dymchwel. Roedd rhagor o wastraff adeiladu a dymchwel yn y cae isaf, yn ogystal â matresi, oergelloedd, bagiau du, metel a phren, gyda pheth ohonynt wedi’u llosgi’n rhannol. Dywedodd y diffynnydd wrth y swyddogion fod y gwastraff a oedd wedi’i ddyddodi ar y cae isaf wedi’i dipio’n anghyfreithlon, ond derbyniodd ei fod wedi llosgi’r deunydd.

Cyflwynwyd hysbysiad cyfreithiol i Mr Price i symud y gwastraff erbyn 16 Mai 2023, ond pan ddychwelodd swyddogion ar 5 Mehefin 2023 nid oedd y gwastraff wedi’i symud a sylwyd ar ddyddodion pellach.

Dywedodd Eleanor Davies, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff CNC:

“Mae rheoliadau amgylcheddol yn eu lle i sicrhau mai dim ond ar safleoedd sydd wedi’u trwyddedu a’u rheoleiddio’n briodol ac sydd â’r seilwaith priodol yn ei le i ddiogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl y caiff gwastraff ei ddyddodi, ei storio a’i waredu.
“Wnawn ni ddim oedi cyn cymryd camau priodol yn erbyn gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon i warchod pobl, yr amgylchedd, a’r economi, a diogelu byd natur a’r farchnad ar gyfer gweithredwyr cyfreithlon.”

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu ewch ar-lein i lenwi’r ffurflen Rhoi Gwybod am Ddigwyddiad.