Camau gorfodi yn lleihau perygl llifogydd yng Ngogledd-orllewin Cymru
Mae camau gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn perthynas â gwaith a wnaed heb ganiatâd yng ngogledd-orllewin Cymru wedi helpu i leihau perygl llifogydd ac wedi cyfyngu ar y potensial am effeithiau andwyol ar yr amgylchedd.
Mae tîm Datblygu a Pherygl Llifogydd CNC wedi ymgymryd â chyfres o gamau gorfodi llwyddiannus yn erbyn gweithgareddau a wnaed heb ganiatâd ar sawl safle ar draws y rhanbarth.
Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ac arweiniad ac anfon llythyrau rhybuddio a hysbysiadau adfer at dirfeddianwyr sy’n gwneud gwaith heb y Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd (FRAP) angenrheidiol.
Gellir rhoi hysbysiadau adfer i dirfeddianwyr, ynghyd â chyngor ar atal llygredd, ar gyfer ymgymryd â gwaith i wrthdroi effeithiau gwaith a wnaed heb ganiatâd a allai gynyddu perygl llifogydd neu achosi difrod amgylcheddol.
Yn Efailnewydd, ym Mhen Llŷn, adeiladwyd bwnd pridd heb ganiatâd o fewn gorlifdir Afon Rhyd-hir a allai fod wedi arwain at berygl uwch o lifogydd i eiddo ac isadeiledd gerllaw.
Yn dilyn adroddiad, ymwelwyd â’r safle ac eglurodd y tirfeddianwyr eu bod wedi rhoi deunydd dros ben mewn bwnd 1.5 metr o uchder am tua 150m ar hyd yr afon.
Eglurodd swyddogion CNC y byddai’r bwnd yn atal dŵr rhag llifo i’r gorlifdir ac yn gwaethygu problemau erydiad drwy gadw’r dŵr yn y sianel.
Cyflwynwyd Hysbysiad Adfer a chymerodd y tirfeddianwyr gamau i unioni’r sefyllfa drwy greu bylchau yn y bwnd i sicrhau y gallai dŵr llifogydd ddal i gysylltu â’r gorlifdir a lleihau unrhyw gynnydd posibl yn y perygl llifogydd i dir ac eiddo cyfagos.
Ymysg y gwaith gorfodi diweddar arall yng ngogledd-orllewin Cymru mae:
Llandderfel: Aildroseddwr yn mewnforio deunydd i’r gorlifdir a’i storio mewn modd a allai ailgyfeirio dŵr llifogydd. Cyflwynwyd Hysbysiad Stop a chliriwyd y deunydd.
Capel Curig: Deunydd wedi’i fewnforio i orlifdir. Cliriwyd y deunydd ac adferwyd y gorlifdir i’w gyflwr gwreiddiol.
Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau CNC, Rheoli Llifogydd a Dŵr:
“Mae rheoli perygl llifogydd yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer lleihau perygl llifogydd i’n cymunedau a’r amgylchedd. Cwblhawyd y gweithgareddau gan y tirfeddianwyr yn yr achosion hyn heb y trwyddedau angenrheidiol. Mae’r ystod o gamau gorfodi a ddefnyddiwyd yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau perygl llifogydd ac i ddiogelu ein hadnoddau naturiol.
“Trwy fynd i’r afael â gweithgareddau perygl llifogydd nas caniateir, gallwn helpu i leihau perygl llifogydd yn y dyfodol a gwella gallu’r rhanbarth i addasu a lliniaru effeithiau hinsawdd yn y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer sicrhau iechyd hirdymor ein dyfrffyrdd a diogelwch ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd.”