Coed llarwydd heintiedig i'w cael eu cwympo mewn coedwig yng Ngwynedd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar fin dechrau gwaith i gwympo coed llarwydd heintiedig mewn tri rhan bach o Goed Foeldinas, Gwynedd.
Mae'r coed, mewn bloc coedwig ger pentref Dinas Mawddwy, wedi cael eu heintio â Phytophthora Ramorum, a elwir yn gyffredin fel clefyd llarwydd.
Bydd y gwaith yn golygu bod angen cwympo coed mewn tri rhan fach o’r coetir.
Cyhoeddwyd Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) sy'n ei gwneud yn ofynnol i CNC weithredu o fewn cyfnod penodol o amser i reoli'r clefyd. Gall y clefyd ledaenu'n gyflym trwy goetir gan ladd coed cyfan.
Mae'n rhaid cwympo'r coed cyn iddynt ddod yn ansefydlog. Mae cam cyntaf y prosiect yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, gan barhau tan fis Chwefror 2024, gyda rhagor o waith i'w wneud y flwyddyn nesaf.
Bydd y gwaith yn cynnwys cwympo coed gyda llif cadwyn.
Bydd pob llwybr troed yn parhau ar agor a gofynnir i'r cyhoedd gymryd rhagofalon trwy gadw at lwybrau wedi'u marcio, arsylwi ar holl arwyddion y safle a chadw cŵn ar dennyn.
Dywedodd Jon Bell, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC: “Rydym yn ymgymryd â'r gwaith hwn o dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol i atal lledaeniad clefyd llarwydd.
“Drwy gael gwared â'r coed mewn camau, byddwn yn cael cyfle i ail-greu cynefin coetir brodorol amrywiol a gwydn ledled y coetir i helpu bywyd gwyllt a gwella'r amgylchedd er mwynhad pawb.
“Rydym yn gweithio i leihau effaith y gwaith lle bynnag y bo modd a hoffem ddiolch i aelodau'r cyhoedd am eu dealltwriaeth ar hyn o bryd."
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch ForestOperationsMidNorthWest@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk