Darganfod Cen Prin yn Sir Gaerfyrddin yn Arwydd Calonogol o Adferiad Amgylcheddol
Wrth i gynrychiolwyr o 196 o wledydd gyfarfod yn Cop16 i drafod ddatblygiant diogelu bioamrywiaeth, mae darganfod cen prin yn ddwfn ym Mharc Dinefwr, Sir Gaerfyrddin, yn arwydd i’w groesawu o adferiad amgylcheddol.
Mae cen Lobaria pulmonaria – rhywogaeth sydd mewn perygl yn Ewrop – wedi’i ddarganfod ar sawl coeden yng Ngwarchodfa Natur Coed y Castell Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a Choedwigoedd Cors yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae cen Lobaria pulmonaria – rhywogaeth sydd mewn perygl yn Ewrop – wedi’i ddarganfod ar sawl coeden yng Ngwarchodfa Natur Coed y Castell Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a Choedwigoedd Cors yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cafodd y math hwn o gen ei ddifa bron yn llwyr yn y Deyrnas Unedig yn ystod y Chwyldro Diwydiannol a dim ond ble mae’r aer yn lân a llaith a’r amodau’n llonydd y mae’n goroesi.
Dim ond tua 600 o goed sydd yng Nghymru y gwyddwn fod cennau Lobaria arnynt, ac mae tua 40 o safleoedd yng Nghymru ble mai dim ond un neu ddwy goeden sy’n cynnal cennau Lobaria. Mae’r ffaith bod poblogaeth fechan wedi’i darganfod yn Ninefwr, yr unig boblogaeth yn Sir Gaerfyrddin, yn awgrymu bod y cen wedi goroesi o ganlyniad i’r aer glân yn y lleoliad hwnnw ac am ei fod wedi’i gysgodi rhag maetholion ar yr awyr yn sgil amaethyddiaeth.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydweithio ar brosiect cadwraeth i ddiogelu a meithrin y boblogaeth Lobaria sydd i’w chael yno, gan sicrhau llecynnau cysgodol lle bo modd a cheisio trawsleoli’r cen i rannau eraill o’r goedwig i’w annog i dyfu yno.
Mae’r prosiect cadwraeth hwn yn enghraifft wych o waith sy’n cael ei wneud i gyflawni gweledigaeth CNC o bobl a natur yn ffynnu gyda’i gilydd.
Dywedodd Hayley Barrett, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd, CNC:
“Rwy’n falch iawn o’r tîm a’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud yn Ystâd Dinefwr, yn gweithio gyda phartneriaid o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Natur i warchod y rhywogaeth garismatig hon sy’n adrodd hanes goroesiad ac adferiad, fel un o’r ychydig safleoedd sydd ar ôl yng Nghymru ar gyfer y rhywogaeth ryfeddol hon.
“Mae’n wych gweld y cen yn ffynnu ar y coed sydd yma o hyd a gobeithio y byddwn yn ei weld yn lledaenu ymhellach o dan y rheolaeth ofalgar rydym yn ei gwneud yma.”
Roedd cen Lobaria wedi’i ganfod eisoes ar goed ynn yng Nghoedwig y Gors ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fe’i darganfuwyd yn fwy diweddar ar y goeden hynaf yn Ninefwr, sy’n dwyn yr enw Derwen y Castell ac sydd tua 800 mlwydd oed o leiaf.
Meddai Dai Hart, Rheolwr Cefn Gwlad ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
“Mae cen Lobaria wedi’i weld ar y dderwen fwyaf a hynaf sydd ar y safle. Mae’n debyg mai coeden ifanc oedd hi pan adeiladwyd y castell felly mae wedi gweld llawer o hanes a newid yn Ninefwr dros y blynyddoedd.
“Mae’r ffaith bod cen Lobaria yn bodoli ar y goeden hynafol hon yn rhywbeth arbennig go iawn ac rwy wrth fy modd nid yn unig bod y cen wedi’i ganfod yn Ninefwr, ond hefyd gyda’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau y caiff bob cyfle i ffynnu yma.”
Gellir dod o hyd iddo hefyd ar goeden ynn wedi disgyn mewn rhan o’r goedwig a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Natur. Mae’r goeden hon wedi dod yn safle rhoi ar gyfer yr ymgais i drawsleoli’r cen.
Meddai Rebecca Killa, Swyddog Sir Gaerfyrddin yr Ymddiriedolaeth Natur:
“Roedd y goeden ynn aeddfed wedi bod yn edrych yn wael ers nifer o flynyddoedd. Am resymau iechyd a diogelwch fe wnaethon ni waith adfer ar y goeden ond fe wnaethon ni hefyd geisio cadw’r goeden ar i fyny i warchod y cen Lobaria. Pan gwympodd y goeden yn y diwedd, fe benderfynon ni ddefnyddio rhywfaint o’r cen o’r goeden i’w drawsleoli.”
Y tu ôl i’r goeden ynn wedi disgyn mae llecyn o goed lle gellir dod o hyd i ddigonedd o gen Lobaria ac ymhellach ymlaen o hynny mae’r safle trawsleoli. Gellir gweld dail cen wedi’u cysylltu at goeden gyda sgwariau o ddefnydd rhwyllog meddal, tebyg i deits ‘fishnet’, a styffylau. Mae’r tîm yn gobeithio y bydd hyn yn annog y cen i dyfu.
Meddai Sam Bosanquet, Cynghorydd Arbenigol: Bryoffytau, Cennau a Ffyngau, CNC:
“Mae’n gyffrous iawn gweld gwaith cadwraeth gweithredol yn digwydd ar gyfer cen Lobaria yn Ninefwr. “Yn aml rydyn ni’n ceisio gwarchod rhywogaethau o gennau prin ar yr ychydig safleoedd sydd ar ôl yng Nghymru ble maen nhw i’w cael drwy atal difrod iddyn nhw. Fodd bynnag, yn yr achos yma, rydyn ni’n mynd gam ymhellach ac yn gwneud rhywbeth penodol i helpu rhywogaeth sy’n dirywio’n sylweddol.
“Gan fod cen Lobaria i’w gael ar nifer o goed Dinefwr erbyn hyn, pe bai rhywbeth yn digwydd i’r cen ar un goeden, bydd yn gallu goroesi ar rai o’r lleill.”