Cadarnhau bod Pla Cimwch yr Afon yn Afon Irfon: Annog y cyhoedd i ddilyn canllawiau i achub rhywogaeth brodorol
Mae canlyniadau profion wedi cadarnhau bod Pla Cimwch yr Afon yn bresennol yn Afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt, gan beri bygythiad marwol i'r boblogaeth cimychiaid afon crafanc wen brodorol.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog defnyddwyr afonydd i aros allan o Afon Irfon a dilyn y protocol "Gwirio, Glanhau, Sychu" os ydynt yn defnyddio dyfrffyrdd eraill yn yr ardal: gwirio offer a dillad ar gyfer mwd a malurion, glanhau popeth yn drylwyr, ac i sychu eitemau yn llwyr cyn mynd i mewn i gyrff dŵr eraill.
Dywedodd Jenny Phillips, Arweinydd Tîm Amgylchedd De Powys CNC:
"Mae'r cimwch afon crafanc wen frodorol yn un o'r rhesymau pam y mae Afon Gwy wedi'i dynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig, felly mae'n hanfodol ein bod yn cyfyngu ar ledaeniad y pla i amddiffyn poblogaethau lleol eraill.
"Mae angen i bawb chwarae eu rhan i atal y pla rhag lledaenu drwy beidio â mynd i mewn i Afon Irfon a dilyn y protocol Gwirio, Glanhau, Sychu os ydych chi'n mynd i mewn i gyrff dŵr cyfagos yn yr ardal."
Mae'r Pla Cimwch yr Afon yn angheuol i gimychiaid afon frodorol ond nid yw’n cael effaith ar bobl, anifeiliaid anwes, da byw a bywyd gwyllt arall. Mae'n lledaenu'n hawdd trwy ychydig o gyswllt, sy'n golygu y gall hyd yn oed ci sy'n symud rhwng afonydd drosglwyddo'r clefyd, gan beryglu poblogaethau gimychiaid afon leol.
Gan na ellir gwneud dim i drin y cimychiaid afon frodorol yn yr Irfon, y flaenoriaeth gadwraeth yw lleihau'r risg o ledaenu'r clefyd, a chaniatáu i'r afon gael ei hail-boblogi dros amser ar ôl i'r clefyd beidio â bod yn yr afon bellach.
Mae'r Cimwch Afon Crafanc Wen yn hanfodol i'n hecosystem ac yn dynodi afonydd iach, glân. Bydd cymryd y camau hyn yn helpu i sicrhau goroesiad y rhywogaeth hon sydd mewn perygl ac yn cynnal iechyd dalgylch Gwy.