Dirwy i gwmni am lygru Afon Cynon
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi erlyn Tower Regeneration Limited yn llwyddiannus, y cwmni sy'n gyfrifol am adfer hen bwll glo dwfn ger Hirwaun, am lygredd niferus o’r Afon Cynon.
Plediodd y cwmni, a sefydlwyd fel partneriaeth fenter ar y cyd rhwng Tower Colliery Ltd a Hargreaves Services plc, yn euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 21 Gorffennaf 2021 i 13 cyhuddiad dros gyfnod o ddwy flynedd, a chafodd ddirwy o bron i £30,000.
Roedd y cyhuddiadau’n ymwneud ag achosion o dorri amodau yn nhrwydded amgylcheddol y cwmni drwy ryddhau dŵr wyneb llawn silt i mewn i un o isafonydd yr Afon Cynon, uwchlaw'r lefelau o solidau mewn daliant a ganiateir.
Yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd rhwng 6 Chwefror 2019 a 15 Chwefror 2021, ymatebodd swyddogion CNC i sawl adroddiad o lygredd yn Afon Cynon a'i hisafonydd, gydag afliwiad i’w weld mor bell i lawr yr afon ag yr Afon Taf yn Radur.
Ymchwiliodd swyddogion CNC y man rhyddhau a ganiateir ar safle Tower Colliery, cymryd samplau dŵr a chanfod bod swm y silt yn y dŵr dros y lefel a ganiateir ar 13 achlysur, gydag uchafbwynt o bron i 100 gwaith y terfyn.
Er i CNC gyflwyno hysbysiadau statudol i Tower Regeneration Limited i wneud y newidiadau angenrheidiol i'r seilwaith dŵr wyneb i reoli'r dŵr ffo o'r safle, roedd y mesurau'n araf i'w rhoi ar waith a pharhaodd y digwyddiadau llygredd.
Dywedodd Michael Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol y De ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Diogelu ein hafonydd rhag llygredd yw un o'n prif flaenoriaethau. Lle gwelwn nad yw cwmnïau'n cydymffurfio â'r amodau yn eu trwyddedi, ac maen nhw’n llygru afonydd Cymru, yn niweidio'r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt lleol, ni fyddwn yn petruso cyn cymryd camau gorfodi.
"Er gwaethaf ein hymdrechion i sicrhau bod Tower Regeneration Limited yn cydymffurfio ag amodau ei drwydded drwy wneud y gwelliannau angenrheidiol ar y safle i atal y llygredd, parhaodd y cwmni i ryddhau dŵr wyneb llawn silt. Roedd hyn yn effeithio ar ansawdd dŵr a gwerth amwynder Afon Cynon a'i hisafonydd.
"Mae canlyniad yr achos hwn, ynghyd â'r erlyniad llwyddiannus blaenorol y cwmni, yn dangos yn glir y bydd unrhyw un sy'n llygru afonydd Cymru yn cael ei erlyn drwy'r llysoedd os oes angen, ac y gallant wynebu dirwyon mawr oherwydd eu gweithredoedd."
Cafodd Tower Regeneration Limited ddirwy o £29,990 a gorchmynnwyd i dalu costau CNC o £26,791.
Ym mis Mai 2021, cafwyd Tower Regeneration Limited hefyd yn euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful o droseddau'n ymwneud â'r gollyngiadau na chaniateir o safle Tower Colliery mewn i un o isafonydd yr Afon Cynon.
Cafodd y cwmni ddirwy o £8,000 a gorchmynnwyd i dalu costau CNC o £12,849 a gordal dioddefwr o £170.