Dirwyo cwmni yn dilyn llygredd afon
Mae cwmni yn Sir y Fflint wedi cael dirwy o £32,000 yn dilyn dau ddigwyddiad llygredd ar gyrsiau dŵr lleol.
Plediodd Mold Investments Ltd, perchnogion Chwarel Parry yn Alltami, yn euog i bedwar cyhuddiad yn ymwneud â thorri eu trwydded amgylcheddol, yn dilyn dau ddigwyddiad llygredd yn 2017 a effeithiodd ar 5km o Nant Alltami a Nant Gwepra.
Canfuwyd nad oedd gan weithredwr y chwarel ddulliau atal llygredd digonol ar waith, a achosodd i fencyn o dan bibell allfa gael ei orchuddio â deunydd coch tebyg i glai ac i ddŵr y ddwy nant droi'n frown fel siocled.
Bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn samplu'r dŵr yr effeithiwyd arno yn y ddau ddigwyddiad. Dangosodd y cyntaf, ym mis Hydref 2017, bron i 600 gwaith y terfyn diogel o ronynnau soled ac roedd yr ail, ym mis Tachwedd 2017, 17 gwaith dros y terfyn cyfreithiol.
Cofrestrwyd y ddau ddigwyddiad fel rhai lefel uchel gan CNC ac yn debygol o achosi niwed difrifol neu farwolaeth i fywyd dyfrol.
Mae'n hysbys bod llygredd fel hyn yn claddu wyau pysgod yng ngwely'r nant, yn atal ffotosynthesis ac yn niweidio cragennau pysgod ac yn eu lladd.
Dywedodd Anthony Randles, arweinydd tîm amgylcheddol y Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer CNC:
“Mae gofalu am afonydd a chyrsiau dŵr Cymru yn rhan enfawr o’r gwaith rydym ni’n ei wneud, yn ogystal â gofalu am y cynefinoedd sy’n dibynnu arnyn nhw.
“Gall digwyddiadau llygredd fel hyn ddinistrio ecosystemau a dyna pam rydyn ni’n rhoi trwyddedau amgylcheddol ar waith i geisio'u hosgoi.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddirwy hon yn anfon neges at fusnesau tebyg bod trwyddedau amgylcheddol i’w cymryd o ddifrif a bod niweidio’r amgylchedd, boed yn fwriadol, neu drwy esgeulustod, yn dod â chanlyniadau.”
Cafodd y cwmni ddirwy o £8,000 am bob trosedd trwyddedu - cyfanswm o £32,000 - yn ogystal â gorchymyn i dalu £6,653.86 mewn costau cysylltiedig.