Gwahoddiad i gymunedau gael gwybod am gynnydd Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren mewn cyfres o ddigwyddiadau galw heibio

Cwm Hafren wedi gorlifo yn ystod Storm Babet

Gwahoddir trigolion a pherchnogion busnes ar hyd rhan uchaf Dyffryn Hafren i gyfres o sesiynau galw heibio a gynhelir yn ddiweddarach eleni lle gallant ddarganfod mwy am gynlluniau i reoli dŵr a gwella cymunedau yn yr ardal.

Mae'r Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS) yn gynllun gynhwysfawr dan arweiniad partneriaeth o Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Amwythig sydd â’r nod o wella rheolaeth dŵr ac amgylcheddau gwydn ar draws dalgylch Hafren Uchaf.

Bydd y Bartneriaeth yn y sesiynau galw heibio isod i drafod sut y byddwn yn datblygu cynlluniau i wneud yr Hafren yn ddalgylch afon mwy bywiog a gwydn, a gwahoddir aelodau o’r cymunedau i’r sesiwn galw heibio i ddarganfod mwy.

Yn ogystal ag ystyried opsiynau at y dyfodol ar gyfer dalgylch afon Hafren uchaf, mae’r SVWMS hefyd yn archwilio’r gwahanol ddulliau ariannu y byddai eu hangen i fwrw ymlaen â gweithredu yn y dyfodol mewn amgylchedd heriol o ran cyllid.

Bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal ar:

  • 7 Tachwedd – Llyfrgell Y Drenewydd, Park Lane, Y Drenewydd, SY16 1EJ
  • 26 Tachwedd – Llanidloes - Prosiect Gerddi Crog, Stryd Bethel, Llanidloes SY18 6BS
  • 10 Rhagfyr– Meifod – Clwb Rygbi Cobra Meifod SY22 6HF
  • 13 Ionawr– Croesoswallt – Neuadd Goffa Croesoswallt, Stryd Smithfield, SY11 2EG
  • 29 Ionawr– Amwythig – Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig, 193 Abbey Foregate, Amwythig SY2 6AH

Mae'r sesiynau hyn, sy'n cyd-daro â sesiynau briffio ar gyfer cynghorau plwyf a chymuned lleol ym Mhowys a Swydd Amwythig, wedi'u cynllunio i roi cyfle i drigolion ddysgu mwy am y prosiect, gofyn cwestiynau, a rhannu eu barn.

Gall pobl hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllun a'r holl newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf trwy edrych ar wefan newydd SVWMS, sy'n ceisio adborth gan y rhai sydd â diddordeb yn y cynllun.

Mae’r prosiect yn ymchwilio i gyfuniad o ddefnydd tir cynaliadwy ar y cyd â’r defnydd presennol o dir, datrysiadau natur uwch, a dulliau peirianneg sensitif i wella gwytnwch o ran perygl llifogydd a rheoli dŵr yn y dalgylch.

Os caiff ei gyflwyno, bydd y SVWMS yn dod â manteision niferus i gymunedau a busnesau ar draws dalgylch Hafren yng Nghymru a Lloegr:

  • Gwell Rheolaeth o Berygl Llifogydd: Trwy weithredu cyfuniad o fesurau, bydd y prosiect yn helpu i arafu llif y dŵr i fyny’r afon, gan leihau’r perygl o lifogydd mewn ardaloedd i lawr yr afon.
  • Gwell Bioamrywiaeth: Bydd y prosiect yn cyfrannu at atal dirywiad bioamrywiaeth trwy greu a gwella cynefinoedd fel gwlyptiroedd, gwelyau cyrs, a choetiroedd. Bydd hyn yn cefnogi ystod amrywiol o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid
  • Gwydnwch Hinsawdd: Bydd dull adfywiol y SVWMS yn cyfrannu'n gadarnhaol at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy wella gallu'r amgylchedd naturiol i amsugno a storio carbon.
  • Gwerth Cymdeithasol Bydd y prosiect yn ymgysylltu â chymunedau lleol ac yn eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth a stiwardiaeth dros yr amgylchedd naturiol.
  • Manteision Economaidd Drwy wella rheolaeth dŵr a lleihau peryglon llifogydd, gall y prosiect ddiogelu busnesau a seilwaith lleol, gan gyfrannu at gydnerthedd economaidd cyffredinol y rhanbarth.

 

Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol ond pwysig wrth i ni wynebu argyfwng hinsawdd a natur.  Rydym yn gweld digwyddiadau tywydd garw, megis llifogydd a chyfnodau o sychder, yn digwydd yn amlach nag yr ydym wedi’i brofi yn y degawdau diwethaf.

Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS) yn edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o ategu ein gweithgareddau rheoli perygl llifogydd a helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn ymhellach drwy ddefnyddio dulliau rheoli llifogydd naturiol i leihau’r perygl o lifogydd neu sychder drwy weithio gyda systemau naturiol.

Mae CNC a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.  Mae’r SVWMS yn brosiect a allai roi atebion ychwanegol tymor hwy i ni i reoli dŵr yn nalgylch Hafren yn gynaliadwy. Rydym yn croesawu’r cyfle i gymunedau helpu i liwio’r cynllun.

 

Dywedodd David McKnight, rheolwr risg llifogydd ac arfordirol Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer Gorllewin Canolbarth Lloegr:

“Mae cyflawni’r SVWMS yn ateb hirdymor i reoli dŵr yn gynaliadwy ac mae ganddo’r potensial i amddiffyn miloedd o gartrefi a busnesau yn well rhag perygl llifogydd ar draws dalgylch afon Hafren uchaf yng Nghymru a Lloegr.

“Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r cynnydd wrth iddo gael ei wneud, ac i bobl gyfrannu ac ymgysylltu â ni wrth i’r prosiect fynd rhagddo. Rydym eisiau clywed gan bob rhan o gymuned Hafren wrth i ni gychwyn ar y strategaeth bod angen i’r dalgylch allu addasu i’n hinsawdd newidiol a pharhau i ffynnu.

“Bydd gwefan newydd SVWMS yn adnodd dibynadwy ac addysgiadol i unrhyw un sydd am ymgysylltu â phartneriaid a byddwn yn diweddaru manylion lleoliad ein sesiynau galw heibio cymunedol a’n diweddariadau am ddigwyddiadau yno hefyd.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, o Gyngor Sir Powys:

"Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn gyfle sylweddol i fynd i'r afael ag effeithiau hinsawdd a brofir yn ein cymunedau ym Mhowys.  Rydym yn gyffrous i fod yn bartner yn y cynllun hwn a byddem yn annog cyfranogiad yn y digwyddiadau cymunedol sydd ar ddod i ddysgu mwy am y prosiect a'r cyfleoedd posibl y gallai eu cynnig."

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Ian Nellins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Swydd Amwythig:

“Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion i warchod cymunedau a gwella ein hamgylchedd naturiol.

“Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn mynd i’r afael â’r peryglon llifogydd uniongyrchol ond hefyd yn cefnogi bioamrywiaeth a’n brwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

“Rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn y sesiynau sydd i ddod i ddysgu mwy am yr effeithiau cadarnhaol a ddaw yn sgil y cynllun hwn.”