Dathlwch fywyd eich gwlyptiroedd lleol ar Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd 2020
Ymunwch â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddydd Sul 2 Chwefror i fwynhau Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd, sef diwrnod i ddathlu cynefinoedd eich gwlyptiroedd lleol a dysgu rhagor amdanynt.
Dethlir Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd ar 2 Chwefror bob blwyddyn, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth yn fyd-eang o bwysigrwydd hanfodol gwlyptiroedd i bobl a’n planed.
Ar 2 Chwefror 1971, mabwysiadwyd y Confensiwn ar Wlyptiroedd yn ninas Ramsar yn Iran. Heddiw, dynodir gwlyptiroedd pwysicaf y byd yn safleoedd Ramsar.
Nid dim ond darparu cartref i fywyd gwyllt prin y mae gwlyptiroedd, ond llawer o’r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt, sef dŵr glân, amddiffyniad rhag llifogydd, a storfa i garbon o’r atmosffer. Maent hefyd yn lleoedd gwych i bobl fwynhau’r awyr agored.
Mae Cymru yn gartref i sawl math o wlyptir, gan gynnwys: ffeniau, cyforgorsydd, corsydd pori, gwernydd, glaswelltiroedd corsiog ac wrth gwrs llynnoedd, pyllau ac afonydd.
Mae gan wlyptiroedd ran allweddol i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, ac mae’n hanfodol eu rheoli, oherwydd yn eu cyflwr gorau gallant ddal a storio cyfanswm enfawr o garbon a fyddai fel arall yn cael ei ryddhau i afonydd a’r atmosffer.
Eleni, fel rhan o Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd, bydd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru, yn y Cletwr, Tre’r-ddôl, Ceredigion, yn dathlu pwysigrwydd Cors Fochno.
Cors Fochno yw un o’r cyforgorsydd mwyaf sy’n parhau i dyfu a geir yn iseldir Prydain, gyda mawn sydd hyd at wyth metr o ddyfnder mewn mannau. Mae’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ger Ynyslas, y Borth.
Ar gyfer Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd eleni, ymunwch â’r tîm i ddysgu rhagor ynglŷn â chyforgors Cors Fochno a’i rôl o ran helpu’r amgylchedd, bywyd gwyllt, a phobl.
Bydd y diwrnod yn cychwyn am 10yb gyda thaith gerdded dywysedig ddi-dâl o amgylch Cors Fochno, ac yna weithgareddau teuluol di-dâl o hanner dydd yn y Cletwr yn Nhre’r-ddôl. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys creu ‘cors mewn potel’, a gemau cardiau ynglŷn â bywyd ar y gwlyptiroedd. Bydd lluniaeth ar gael am eu cost arferol o’r caffi.
Dywedodd Jack Simpson, Swyddog Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE:
“Fel rhan o ddathlu Cors Fochno, byddwn hefyd yn gofyn i ymwelwyr rannu eu straeon a’u hatgofion o’r gors, ac i ddod ag unrhyw hen luniau sydd ganddyn nhw o’r safle unigryw hwn.”
Nod Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru, sy’n para pedair blynedd ac a ariennir gan raglen LIFE yr UE, yw adfer saith o’r cyforgorsydd mawn pwysicaf yng Nghymru: Cors Caron a Chors Fochno yng Ngheredigion, a phump arall ledled Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli sawl safle gwlyptir Ramsar yng Nghymru. Beth am ymweld ag un ar Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd eleni? Ewch i’r wefan i ganfod rhagor: https://naturalresources.wales/days-out/things-to-do/?lang=cy
Siop a chaffi cymunedol yn Nhre’r-ddôl yw’r Cletwr, a leolir hanner milltir o Gors Fochno. Mae’n cynnig ei arlwy ei hun o ddigwyddiadau a gweithgareddau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://cletwr.com/cymraeg/