Archwiliwch eich tanc olew cyn i’r gaeaf gyrraedd er mwyn atal llygredd, medd CNC
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog perchnogion tanciau olew domestig i’w harchwilio’n rheolaidd er mwyn osgoi difrod amgylcheddol yn sgil gollyngiadau olew y gaeaf hwn.
Mae gan berchnogion cartrefi sy’n storio olew gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau na fydd eu cyfleusterau storio’n achosi llygredd; ond eto i gyd, mae nifer fawr o ddamweiniau’n digwydd bob blwyddyn yn sgil gollyngiadau olew o danciau.
Gall gollyngiadau olew wneud niwed mawr i’r amgylchedd – gall ladd planhigion, niweidio bywyd gwyllt, llygru afonydd a halogi dŵr yfed.
Hefyd, os bydd tanciau olew yn gollwng, bydd y perchnogion yn gorfod wynebu’r gost o brynu olew arall yn ei le, yn ogystal â gorfod talu miloedd o bunnoedd, o bosib, i lanhau unrhyw ollyngiad.
Medd Huw Jones, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd:
“Wrth i’r tymor gwlyb a gaeafol nesáu, mae hi’n arbennig o bwysig i berchnogion cartrefi archwilio tanciau a’u pibellau’n rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda.
“Pan fydd dŵr yn treiddio i danc olew, bydd yn hel yng ngwaelod y tanc dan yr olew. Efallai na fydd hyn yn achosi problem yn syth, ond ar ôl i’r tanc ddechrau llenwi â dŵr gall fynd i mewn i’r pibellau hefyd.
“Gall dŵr mewn tanc dur arwain at rwd, ac mewn tywydd oer iawn gall chwyddo a rhewi. Gall hyn dorri pibellau a ffitiadau, gan arwain at y posibilrwydd o golli olew ac, mewn sawl achos yn anffodus, at ddigwyddiad amgylcheddol sylweddol.”
Ychwanegodd Joe Bath, Rheolwr Technegol o’r Gymdeithas Dechnegol Llosgi Olew (OFTEC):
“Gall olew gwresogi domestig gael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd, a gellir osgoi’r rhan fwyaf o’r gollyngiadau’n hawdd trwy archwilio tanciau a’u pibellau’n rheolaidd a thrwy eu cynnal a’u cadw’n dda.
“Er mwyn atal dŵr rhag mynd i mewn i’r tanc, archwiliwch gyflwr y tanc a’r ffitiadau gan chwilio am unrhyw newidiadau fel craciau, rhwd, neu ollyngiadau bach, cyn ac ar ôl i’r tanc gael ei lenwi ag olew er enghraifft. Mae gofyn i rywun cymwys, fel technegydd cofrestredig o OFTEC, archwilio eich tanc yn flynyddol yn gam rhagofalus gwych i’w gymryd, oherwydd yn ogystal â dod o hyd i ddiffygion a allai beri i ddŵr fynd i mewn i’r tanc, gall hefyd gynnal archwiliad cyflym a syml i weld a oes dŵr yn y tanc eisoes.
“Os gwelir bod dŵr yn y tanc, bydd modd tynnu ychydig litrau trwy ddefnyddio offer sugno dŵr arbenigol a gaiff eu gostwng i waelod y tanc. Yna, bydd modd codi’r offer o’r tanc yn ddiweddarach a chael gwared â nhw’n ddiogel. Ond os bydd yna lawer o ddŵr yn y tanc, bydd angen cael contractwr arbenigol i’w dynnu a’i waredu.”
Gellir dod o hyd i Ganllawiau ar Reoliadau Storio Olew Cymru yma
Dylid rhoi gwybod i CNC am ddigwyddiadau llygredd posib a digwyddiadau amgylcheddol eraill trwy gysylltu yn y lle cyntaf â’r gwasanaeth argyfwng 24 awr – ffoniwch 0300 065 3000 neu anfonwch e-bost i’r cyfeiriad icc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk