Galw ar drigolion Castell-Nedd i fwrw golwg ar eu tanciau olew
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog unrhyw un sy’n byw yn ardal Bryn-coch / Rhydding yng Nghastell-nedd, sydd â thanc olew domestig, i gael golwg arno fel mater o frys i weld a yw’n gollwng.
Derbyniodd Tîm Amgylchedd Castell-nedd Port Talbot adroddiadau am arogl tanwydd cryf yn dod o un o lednentydd Afon Clydach ddydd Gwener 20 Hydref.
Mae swyddogion yr amgylchedd wedi gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i ffynhonnell y llygredd, ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo i’w leoli hyd yma. Mae swyddogion o’r farn y gallai fod yn dod o danc olew domestig ac maent wedi cysylltu â thrigolion lleol i ofyn iddynt fwrw golwg ar eu tanciau olew.
Meddai Rhys Griffiths, Swyddog yr Amgylchedd CNC ar gyfer Castell-nedd Port Talbot:
“Rydyn ni’n annog trigolion lleol i’n helpu i ddod o hyd i ffynhonnell y llygredd a bwrw golwg ar eu tanciau olew ar frys. Os yw lefel yr olew yn y tanc wedi gostwng yn annisgwyl, neu os ydych yn gweld arwyddion o olew wedi gollwng o amgylch y tanc, cysylltwch â Thîm Amgylchedd Castell-nedd Port Talbot drwy ein llinell gymorth digwyddiadau ar unwaith drwy ffonio 0300 065 3000. Po gyntaf y gallwn ddod o hyd i’r ffynhonnell, y cynharaf y gallwn stopio’r olew rhag gollwng.”
Os yw eich tanc yn gollwng, rhowch wybod i CNC ar unwaith drwy ffonio 0300 065 3000 neu rhowch wybod ar-lein. Cymerwch gamau hefyd i atal mwy o olew rhag cyrraedd y cwrs dŵr gerllaw.
- stopiwch y llif yn y ffynhonnell trwy ddiffodd y tap; ceisiwch ddod o hyd i ffynhonnell y gollyngiad a lleihau’r llif; defnyddiwch dywod i amsugno unrhyw olew sydd wedi gollwng ar y ddaear
- Rhowch wybod i’ch darparwr yswiriant.
- Gwnewch yn siŵr bod unrhyw atgyweiriadau yn cael eu gwneud gan beiriannydd sydd wedi cofrestru â’r Oil Firing Technical Association (OFTEC)
Cafodd CNC wybod am yr arogl cryf am y tro cyntaf ddydd Gwener 20 Hydref. Mae swyddogion yr amgylchedd wedi ymweld â’r ardal i ymchwilio sawl gwaith ers y dyddiad hwnnw.
Mae cryfder yr arogl yn amrywio yn ôl y dwyster a’r lleoliad yn ardaloedd Oakland Drive, Glendale a Ty’n yr Heol.
Gwelwyd bod y dŵr wedi’i halogi ddydd Llun 23 Hydref. Cymerodd swyddogion samplau dŵr a defnyddio bŵm i helpu i atal y llygredd rhag ymledu.
Bydd y tîm yn parhau i ymweld â’r safle yn rheolaidd i wneud gwiriadau