Dirwy i ddyn o Gaerffili am ddinistrio tair Clwyd Ystlumod
Mae adeiladwr o Gaerffili wedi cael rhyddhad amodol o 12 mis a gorchymyn i dalu costau o £111.00 am dynnu to eiddo yng Ngelligaer yn anghyfreithlon a dinistrio tair clwyd wahanol lle roedd yn hysbys bod ystlumod lleiaf, ystlumod lleiaf meinlais ac ystlumod barfog gwarchodedig yn clwydo.
Plediodd Mr Robert Roberts yn euog o dorri Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd) yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 25 Mawrth 2024.
Dangosodd arolwg ecolegol llawn a gwblhawyd gan ecolegydd annibynnol a gyflogwyd gan berchennog y tŷ fod clwydau'r ystlumod yn bresennol yn Alpine Cottage yng Ngelligaer.
Mae'r tair rhywogaeth yn rhywogaethau â blaenoriaeth yn y DU ac Ewrop ac yn cael eu gwarchod gan gyfraith Bywyd Gwyllt y DU ac Ewrop.
Roedd presenoldeb yr ystlumod yn golygu na ellid tynnu to'r adeilad heb Drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop a mesurau lliniaru priodol.
Methodd yr adeiladwr â gwneud cais am y Drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn tynnu'r to.
Yn y llys, dadleuodd Mr Roberts fod methiant o ran cyfathrebu rhyngddo'i hun a pherchennog y tŷ wedi arwain at dynnu'r to yn rhy gynnar.
Dadleuodd ymhellach, er iddo dynnu’r to cyfan, bod yr ystlumod bellach wedi dychwelyd ac nad oedd yr ystlumod felly wedi cael eu niweidio.
Yn anffodus, roedd diffyg trwydded gan CNC yn sicrhau ymhellach nad oedd unrhyw gefnogaeth ecolegol yn ystod y gwaith o gael gwared ar y to.
Byddai ecolegydd ar y safle, wrth dynnu'r to, wedi gallu monitro yn ofalus a sicrhau diogelwch unrhyw ystlumod eraill a allai fod wedi bod yn bresennol, gan amddiffyn unrhyw ystlumod a oedd yn dal yno.
Dywedodd PC Mark Powell, sydd ar secondiad gyda thîm Rheoleiddio Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae swyddogion o CNC yn gweithio’n llwyddiannus gyda heddluoedd ledled Cymru a’r Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol i ymchwilio i droseddau, ac i erlyn y rhai sy’n gyfrifol am gyflawni troseddau cefn gwlad a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt.
Cadarnhaodd yr ecolegwyr a luniodd yr arolwg gwreiddiol yn y cyfeiriad bod tair clwyd wahanol yn bresennol, gan honni bod dwy o'r clwydau hynny yn glwydau mamolaeth.
Mae'r achos hwn o ddinistrio Clwydau Ystlumod hysbys heb gefnogaeth ecolegol ar y safle a heb Drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, yn warthus.
Mae colli dwy glwyd mamolaeth yn ddinistriol iawn ac er ei bod yn ffodus bod ystlumod wedi dychwelyd i'r cyfeiriad, mae'n bosibl fod colli blwyddyn gron o gylch bridio wedi effeithio ar y rhywogaeth yn yr ardal leol.
Mae deddfwriaeth ar waith ac fe'i cynlluniwyd i ddiogelu ein rhywogaethau brodorol gwarchodedig sydd eisoes yn prinhau.
Rhaid sicrhau ein bod yn diogelu ystlumod, a rhywogaethau gwarchodedig eraill, os ydym am i genedlaethau'r dyfodol elwa o'u bodolaeth barhaus.
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, cysylltwch â llinell gyfathrebu Digwyddiadau CNC sydd ar agor 24/7, ar 0300 065 3000.