‘Byddwch ar eich gwyliadwriaeth’ - Rhybudd ynghylch gweithredwyr anghyfreithlon yn dympio gwastraff
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus rhag cludwyr gwastraff anghyfreithlon.
Daw’r rhybudd yn dilyn dedfrydu gweithredwr gwastraff o Fae Kinmel am gludo a thipio gwastraff cartref yn anghyfreithlon yn Llysfaen, Conwy y llynedd.
Hysbysebodd Daniel McNeill wasanaethau gwared gwastraff ar Facebook a chasglodd wastraff cartref ledled Gogledd Cymru.
Plediodd McNeill yn euog i’r cyhuddiadau yn Llys Ynadon Llandudno a derbyniodd ddedfryd o 20 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am 12 mis, cyrffyw 14 wythnos a chyfraniad o £1,500 tuag at gostau’r erlyniad.
Ymchwiliwyd i'r achos ar y cyd gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau CNC yng Ngogledd Cymru: “Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna byddwch yn wyliadwrus, mae’n debygol iawn bod y cludwr yn gweithredu’n anghyfreithlon ac yn dympio gwastraff lle bydd yn niweidio’r gymuned leol a’r amgylchedd.
“Rhaid bod gan bob busnes yn y diwydiant gwastraff drwydded i symud, storio a thrin gwastraff.
“Mae’r achos yma’n dangos yn glir y bydd unrhyw un sy’n ceisio gweithredu tu allan i’r rheolau yn cael eu herlid drwy’r llysoedd.”
Ar gyfartaledd mae cludwr gwastraff cyfreithlon yn codi tua £52 i gael gwared â bwndel o wastraff cist car, tra byddai llwyth fan yn costio tua £166 a llwyth sgip ar gyfartaledd tua £230.
Os yw'ch cludwr gwastraff yn codi llai, gofynnwch am gael gweld ei drwydded cludwr gwastraff a gwirio y gofrestr gyhoeddus ar y wefan www.cyfoethnaturiol.cymru
Dylai unrhyw un sy'n amau gweithgaredd gwastraff anghyfreithlon roi gwybod amdano trwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.