Gohirio’r tymor dŵr ymdrochi
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi y bydd dechrau'r tymor dŵr ymdrochi yn cael ei ohirio tan o leiaf 22 Mehefin eleni er mwyn sicrhau bod gwaith samplu dŵr pwysig yn digwydd er mwyn cynnal safonau uchel dyfroedd ymdrochi Cymru ar gyfer y dyfodol.
Gwnaed y penderfyniad gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn dilyn asesiadau risg a nododd sawl mater a fyddai'n effeithio ar y broses o gynnal y gwaith samplu dŵr yn llawn.
Bydd y oedi’n golygu y bydd y tymor ymdrochi'n cael ei ohirio nes ei bod yn ddiogel i'r staff gyflawni eu swyddogaethau.
Mae'r tymor samplu dŵr ymdrochi fel arfer yn dechrau ar 15 Mai ac yn profi ansawdd dŵr pob un o'r 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig o amgylch Cymru.
Caiff samplau dŵr eu cymryd, eu dadansoddi mewn labordy arbenigol a'u hasesu yn erbyn meini prawf penodol. Ar ddiwedd y tymor bydd y canlyniadau'n cael eu casglu ar gyfer pob dŵr ymdrochi a'u defnyddio i asesu'r dŵr yn 'wael', 'digonol', 'da' neu 'ardderchog'. Bydd hwn yn pennu'r dosbarthiad ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol CNC:
"Mae cadw dyfroedd ymdrochi Cymru’n lân o fudd i bobl, yr economi a'r bywyd gwyllt anhygoel yn ein dyfroedd arfordirol.
"Gyda'r amgylchiadau digynsail sydd wedi effeithio arnom ni i gyd yn sgil y Coronafeirws, rydym yn anffodus wedi gorfod gohirio ein rhaglen samplu dŵr ymdrochi.
"Ni ddisgwylir i'r oedi o ran samplu effeithio ar ansawdd dŵr o amgylch arfordir Cymru gan fod y mesurau atal llygredd a'r rheolaethau trwyddedu arferol ar gyfer gollyngiadau arfordirol yn dal i fod ar waith.
"Mae CNC yn gweithio i gynhyrchu rhaglen dŵr ymdrochi ar gyfer 2020 a fyddai'n helpu i hysbysu'r cyhoedd am ansawdd dŵr pan fydd yn ddiogel gwneud hynny."
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Bydd gohirio dechrau'r tymor ymdrochi yn sicrhau y gall CNC gyflawni gwaith samplu ansawdd dŵr hanfodol er mwyn i ni i gyd allu mwynhau ein dyfroedd arfordirol a mewndirol unwaith eto, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Nid nawr yw'r amser hwnnw a byddwn yn parhau i adolygu dyddiad dechrau'r tymor yn unol â'n polisi a'n rheoliadau COVID-19 ehangach."
Yng Nghymru, mae gofyn o hyd i bobl aros gartref i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws a chynyddu ei ymlediad. Mae'r rheoliadau aros gartref yn gofyn i bobl feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â phryd i adael eu cartref, gan gynnwys i wneud ymarfer corff.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau a chyfres o gwestiynau cyffredin i ategu’r rheoliadau aros gartref.