Swyddogion samplu dŵr ymdrochi yn barod am dymor prysur o wirio ansawdd dŵr
Tra bo teuluoedd ar hyd a lled Cymru yn dechrau cynllunio ar gyfer yr haf, mae swyddogion samplu dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cychwyn ar eu rhaglen flynyddol o brofion ar ansawdd dŵr ymdrochi.
Eleni, mae 110 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig, a fydd yn cael eu samplu sawl gwaith rhwng 15 Mai a 30 Medi, yn unol â Rheoliadau Dŵr Ymdrochi’r DU. Mae 109 o’r rhain yn ddyfroedd arfordirol, ac un yn llyn mewndirol (Llyn Padarn).
Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Traeth Nefyn yng Ngwynedd wedi ei ychwanegu at y rhestr o ddyfroedd dynodedig, yn dilyn cais llwyddiannus.
Mae samplau dŵr ymdrochi yn cael eu hanfon at labordy CNC yn Abertawe, lle cânt eu profi am lefelau Escherichia coli (E. coli) ac enterococci perfeddol (IE).
Yna mae canlyniadau cyfnod treigl o bedair blynedd yn pennu’r dosbarthiad ar gyfer y tymor dŵr ymdrochi nesaf: rhagorol, da, boddhaol neu wael.
Y llynedd, roedd 98% o ddyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru yn bodloni safonau amgylcheddol llym, gydag 80 allan o’r 109 yn bodloni’r meini prawf ar gyfer dynodiad ‘rhagorol’.
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:
“Mae mwy a mwy o bobl yn mwynhau manteision nofio yn yr awyr agored, a lle gwell i ymdrochi nag yn un o amryw ddyfroedd ymdrochi rhagorol Cymru.
“Mae ein dyfroedd gleision yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd hamdden, a hynny’n rhoi hwb hanfodol i sector twristiaeth Cymru ac i iechyd a lles ein cymunedau.
“Mae ein timau’n dal ati i weithio’n galed i fynd i’r afael â’r ffynonellau niferus o lygredd sy’n bygwth ansawdd ein dŵr, gan gynnwys amaethyddiaeth a gorlifoedd stormydd. Mae llawer o gynnydd yn cael ei wneud, ac rydym yn pwyso am lefelau uwch nag erioed o’r blaen o fuddsoddiadau gan gwmnïau dŵr dros yr amgylchedd yn y blynyddoedd i ddod er mwyn diogelu iechyd ein dyfroedd yn y dyfodol.”
Cyn dechrau’r tymor ymdrochi traddodiadol, mae swyddogion CNC yn cynnal nifer o wiriadau a samplau i baratoi. Mae hyn yn cynnwys gwirio bod gollyngiadau gerllaw yn cydymffurfio ag amodau trwyddedau.
Mae timau lleol yn ymchwilio i broblemau neu unrhyw achosion o ddirywiad a amlygwyd yng nghanlyniadau’r flwyddyn flaenorol er mwyn canfod unrhyw ffynonellau o lygredd a allai fod yn cyfrannu at lefelau uchel o facteria mewn samplau.
Mae gwybodaeth am ble i ddod o hyd i ddyfroedd ymdrochi dynodedig, a safon y dŵr ymdrochi, ar gael ar wefan CNC.
Ewch i wefan Mentro’n Gall i gael gwybodaeth am nofio’n ddiogel mewn dyfroedd agored.