Cynllun £700k i wella amddiffynfa rhag llifogydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau gwelliant o £700,000 i gynllun llifogydd sy’n amddiffyn pobl mewn 41 eiddo yng ngorllewin Cymru.
Mae’r ardal storio llifogydd ym Mhont y Cerbyd, Sir Benfro yn dal dŵr llifogydd yn ôl allai fygwth pentrefi cyfagos Felinganol a Solfach.
Mae’r gwelliannau’n cynnwys gorlifan 50 metr o hyd, strwythur gorlif sy’n rheoli faint o ddŵr y gall y gronfa ei ddal, atgyfnerthu’r arglawdd er mwyn ei amddiffyn rhag erydiad, a draenio ychwanegol.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol yn 1990, roedd angen gwneud y gwaith ar yr ardal storio wedi i sawl digwyddiad llifogydd erydu rhan o’r hen orlifan, gan ei gwneud yn llai effeithiol.
Gan fod y gwaith wedi’i gwblhau, gall y strwythur gynnal y lefel wreiddiol o amddiffynfa rhag llifogydd ar gyfer pobl yn y pentrefi i lawr yr afon.
Er mwyn diogelu a rhybuddio’r cymunedau lleol ymhellach, mae CNC wedi gosod offer newydd i fonitro lefelau’r afon, yn ogystal â thyrbin gwynt bychan i bweru camera CCTV y gellir ei ddefnyddio i weld lefelau dŵr y gronfa mewn amser go iawn.
Fel rhan o’r cynllun, fe wnaeth CNC hefyd drefnu ymarferion i ymarfer defnyddio offer pwmpio mewn argyfwng i reoli lefelau’r dŵr yn y gronfa pe bai angen.
Dywedodd Andy Irving, arweinydd tîm rheoli digwyddiadau llifogydd ar gyfer CNC:
“Mae amddiffyn cymunedau Cymru’n rhan hanfodol o’n gwaith, a dyna pam ein bod yn monitro lefelau afonydd ledled y wlad 24/7 ac yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn prosiectau i leihau perygl llifogydd i bobl.
“Mae ardal storio llifogydd Pont y Cerbyd yn helpu i reoli’r perygl o lifogydd i 41 o dai i lawr afon Solfach, lle gall lefelau godi’n gyflym mewn tywydd garw.
“Mae buddsoddi mewn prosiectau gwella yn ychwanegu lefel arall o ddiogelwch ar gyfer cartrefi a busnesau sydd mewn perygl.
“Mae cyfuno hyn â’n hymarferion hyfforddi’n golygu y gallwn ni ymateb i ddigwyddiadau yn gyflym ac yn effeithlon.”