Adfer llwybrau pysgod mudol ar Afon Dulais

Llwybr pysgod newydd ar Afon Dulais.

Mae prosiect i adfer Afon Dulais ger Llanwrda ac agor mannau silio ar gyfer pysgod mudol wedi cael ei gwblhau.

Mae tîm prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau llwybr pysgod ar strwythur o dan bont reilffordd ar Afon Dulais, un o isafonydd ACA Afon Tywi.

Roedd llifau bas dros ffedog y bont 14 metr o hyd o dan y bont, ynghyd â gwahaniaeth uchder fertigol o dros 30cm, yn creu rhwystr sylweddol i fudiant pysgod.

Mae Afon Dulais yn isafon bwysig ar gyfer silio i bysgod fel eogiaid yr Iwerydd a brithyllod y môr ac roedd lleoliad y rhwystr ar waelod y dalgylch yn cyfyngu mynediad i tua 14km o gynefin i fyny'r afon.

Roedd y llwybr pysgod yn cynnwys rhag-faredau - argaeau bychain wedi'u gwneud o gerrig bloc - i godi lefel y dŵr i lawr yr afon, a thrwy hynny leihau'r gwahaniaeth yn uchder y dŵr.

Gosodwyd trawstiau derw (trawstiau pren sgwâr) ar ymyl ‘ar i lawr’ yr afon o ffedog y bont er mwyn cynyddu dyfnder y dŵr ar wyneb y ffedog.

Gosodwyd ramp â theils gyda stydiau hefyd drwy un o'r trawstiau i wella’r llwybr ar gyfer rhywogaethau sy’n nofwyr gwannach fel llysywod a llysywod pendoll.

Bydd y cynllun newydd hwn yn sicrhau manteision mwyaf posibl y llwybr pysgod a ddarperir gan CNC yn 2023 mewn cored i fyny’r afon ym mhentref Llanwrda.

Mae gwaith pellach ar y gweill i wella llwybr pysgod ar Afon Dulais yn 2025. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys gosod ramp carreg ar gored ger pont ffordd yr A40.

Meddai Peter Jones, Swyddog Pedair Afon LIFE: “Dylai buddion cyfunol y cynlluniau hyn sicrhau mynediad di-dor i bysgod mudol ar Afon Dulais.
“Mae’n hanfodol ein bod yn agor mynediad pysgod i isafonydd er mwyn helpu i wrthdroi’r dirywiad ym mhoblogaethau eogiaid a brithyllod y môr. Mae hefyd yn hanfodol bod gwelliannau i lwybrau pysgod yn adlewyrchu anghenion pysgod sy’n nofwyr gwannach fel llysywod a llysywod pendoll.”

Cynlluniwyd a darparwyd y prosiect gan Paul’s Plant Hire a chymerodd dim ond tair wythnos i’w gwblhau.

Ariennir y prosiect gan Brosiect Pedair Afon LIFE a ariannwyd gan raglen LIFE yr UE.

Er mwyn darganfod mwy am y prosiect ewch i’r wefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Prosiect Pedair Afon LIFE