Chwilen sy’n bwyta planhigion yn helpu i wella afon yng Ngorllewin Cymru

Rhedyn y dŵr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Galchog Llangloffan 8 wythnos ar ôl rhyddhau gwiddon (llun CNC)

Mae prosiect i adfer ACA Afon Cleddau yn Sir Benfro wedi bod yn defnyddio chwilen lysysol i reoli rhywogaeth oresgynnol.

Rhyddhawyd gwiddon Azolla (Stenopelmus rufinasus) ym mis Mehefin 2024 gan Brosiect Pedair Afon LIFE ar Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Galchog Llangloffan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ger Abergwaun.

Bydd y gwiddon yn helpu i reoli a difa rhedyn y dŵr (Azolla filiculoides) sy'n dominyddu rhannau o'r warchodfa ac Afon Cleddau gerllaw.

Mae rhedynen y dŵr yn cael ei dosbarthu fel rhywogaeth estron oresgynnol (INNS) ac mae'n un o'r planhigion mwyaf goresgynnol yn y DU heddiw, fodd bynnag mae gwiddon Azolla yn cael effaith fawr ar y planhigyn, ac yn bwydo ac yn datblygu arno.

Rhedynen ddyfrol arnofiol yw rhedynen y dŵr sy'n tyfu'n gyflym ac yn ymledu dros wyneb dŵr llonydd a dŵr sy’n llifo’n araf i ffurfio matiau a all fod yn 30cm o drwch.

Yn ystod tywydd poeth, gall matiau ddyblu o ran maint a hynny o fewn pedwar neu bum diwrnod yn unig. Mae'r rhain yn cau’r goleuni allan, gan ladd fflora dyfrol eraill a lleihau’r ocsigen sydd ar gael, a all arwain at farwolaeth pysgod ac infertebratau.

Meddai Duncan Dumbreck o Brosiect Pedair Afon LIFE: “Yr haf diwethaf daethom o hyd i sawl ardal yn y warchodfa lle roedd rhedynen y dŵr yn cymryd drosodd oddi wrth blanhigion brodorol.
Ychwanegodd: “Gyda chyngor a chefnogaeth CABI fe wnaethom ryddhau gwiddon Azolla yn y warchodfa ac mae’r effaith wedi bod yn sylweddol ac rydym wrth ein bodd gyda’r newidiadau hyd yma.”

Cysylltodd y prosiect â’r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Rhyngwladol (CABI) gan fod y sefydliad wedi rheoli rhedyn y dŵr yn llwyddiannus mewn nifer o ardaloedd gan ddefnyddio gwiddon Azolla. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar y ddolen hon.

Ar ôl wyth wythnos yn unig mae'r effaith wedi bod yn sylweddol gyda'r rhan fwyaf o redyn y dŵr wedi cael ei fwyta a’r llinad y dŵr brodorol wedi cymryd ei le (Llun chwith: cyn, a Llun dde: ar ôl 8 wythnos).

 

Bydd y prosiect yn parhau i fonitro cynnydd y gwiddon dros y gaeaf ac yn gynnar yn y tymor tyfu y gwanwyn nesaf er mwyn asesu a ydynt wedi llwyddo i reoli rhedyn y dŵr yn lwyr.

Mae gwiddon Azolla yn gwbl ddibynnol ar redynen y dŵr ac nid ydynt yn lledaenu i blanhigion eraill, felly nid oes unrhyw berygl i blanhigion pwysig y gors galchog a chnydau ffermio pwysig yn yr ardal. Mae'r chwilod yn wydn, ond gall gaeafau caled iawn eu lladd.

Ariennir y Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

Er mwyn darganfod mwy am y prosiect ewch i’r wefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Prosiect Pedair Afon LIFE