Gollyngiadau o gronfa ddŵr: gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu
Byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol pan fyddwch yn gwneud cais am ganiatâd i ollwng dŵr o gronfa ddŵr.
Asesiad risg
Mae angen i’ch asesiad risg ystyried y canlynol:
- y cynnydd yn y llif i lawr yr afon
- gollwng gwaddod
- gollwng gwaddod llygredig
- gollwng dŵr o ansawdd gwael
- rhyddhau pysgod
Mae’n rhaid i chi gynnal asesiad risg manylach os oes risg sylweddol i bobl neu’r amgylchedd. Dylai hyn gynnwys:
- manylion y risgiau
- mesurau lliniaru i osgoi neu leihau effaith yr holl risgiau a nodwyd.
Y cynnydd yn y llif i lawr yr afon
Mae’n rhaid i chi asesu a fydd y gollyngiad o’r gronfa ddŵr yn cael effaith ar y llif i lawr yr afon.
Gall cynnydd mawr yn llif y dŵr i lawr yr afon achosi effeithiau amgylcheddol difrifol a pheri risgiau o ran diogelwch, gan gynnwys llifogydd.
Gall cynnydd yn y llif i lawr yr afon:
- ddifrodi eiddo, pontydd, cychod, a strwythurau ar y lan
- effeithio ar ddefnydd o’r tir, er enghraifft rhwystro llwybrau mynediad
- peryglu bywyd ac iechyd pobl ac anifeiliaid
- newid ymddangosiad yr afon, er enghraifft erydu glan yr afon
- niweidio ecoleg yr afon, er enghraifft golchi planhigion dyfrol i ffwrdd
- dinistrio cynefinoedd pysgod a’u safleoedd bridio
- dadleoli pysgod i lawr yr afon
Er mwyn lleihau’r effaith mae’n rhaid i chi reoli’r canlynol:
- y gyfradd ollwng
- cyfaint y dŵr a gaiff ei ollwng
- y cynnydd yn nyfnder y sianel i lawr yr afon
Rhaid i bob gwaith arferol i ostwng lefel y dŵr mewn cronfa ddŵr atal neu leihau effeithiau i lawr yr afon a pheryglon llifogydd cyn belled ag y bo modd.
Rhaid i’ch asesiad risg nodi unrhyw eiddo neu sefyllfaoedd y gallai eich gweithrediadau gollwng arferol effeithio arnynt. Er enghraifft:
- tai
- busnesau
- carafannau
- safleoedd gwersylla
defnyddwyr dŵr lleol fel:
- pysgotwyr
- pobl mewn cwch
- pobl mewn canŵ
Dylech gadw cofrestr o gysylltiadau a rhoi rhybudd cyn gwneud gwaith i ostwng lefel y dŵr.
Gollwng gwaddod
Mae’n rhaid i chi ystyried a fydd y gollyngiad o’ch cronfa ddŵr yn effeithio ar waddodion i lawr yr afon. Gall dyddodion sylweddol o waddodion:
- niweidio ecoleg yr afon
- dinistrio cynefinoedd pysgod a’u safleoedd bridio
- newid ymddangosiad yr afon
Ystyriwch yr angen am arolwg i ddarganfod faint o waddod sydd wedi cronni a allai gael ei olchi drwy’r falf sgwrio. Dylech gynnwys manylion am lefelau’r gwaddod mewn perthynas ag uchder y falf sgwrio a samplau gwaddod, fel rhan o’ch cais am ganiatâd.
Mae eich gollyngiad yn fwy o risg os:
- nad ydych wedi agor y falf sgwrio ers dros flwyddyn
- bu digwyddiad a allai fod wedi creu llawer iawn o waddodion, er enghraifft llifogydd i fyny’r afon o’r gronfa ddŵr
Os yw’n bosib y bydd llawer iawn o waddod yn golchi drwy’r falf sgwrio, rhaid i chi ddatblygu cynllun i atal gollyngiad niweidiol.
Er mwyn lleihau’r effaith, ystyriwch y mesurau lliniaru canlynol:
- gwnewch y gollyngiad i gyd-fynd â llifoedd naturiol uwch yn yr afon a chynnydd yn y gwaddod sy’n cael ei gludo’n naturiol
- agorwch y falf sgwrio yn raddol
- gwnewch ollyngiadau bach yn aml
- gosodwch drapiau gwaddod i gael gwared ar waddodion wedi’u rhwystro, gan eu cynnal a’u cadw.
Gollwng gwaddod llygredig
Mae’n rhaid i chi ystyried a allai llygryddion fod yn bresennol mewn symiau sylweddol yng ngwaddod eich cronfa ddŵr.
Gallai cronfeydd dŵr mewn ardaloedd diwydiannol fod â gwastraff diwydiannol gwenwynig yn y gwaddod.
Os yw gwaddod y gronfa ddŵr yn cynnwys llygryddion, gallai’r rhain gael eu cludo i lawr yr afon a gallent:
- achosi dirywiad yn ansawdd yr afon, i’r rhai sy’n defnyddio’r dŵr ac yn tynnu’r dŵr
- niweidio ecoleg yr afon, yn y tymor byr neu’r tymor hir
Os yw’n bosib y gallai’r gwaddod gynnwys llygryddion, rhaid i chi brofi’r gwaddod yn gemegol.
Er mwyn lleihau’r effaith, ystyriwch garthu’r gwaddod llygredig o’r gronfa ddŵr. Rhaid i chi ddilyn y gofynion ar gyfer gwaredu gwastraff rheoledig neu beryglus a chael gwared ar y gwaddod wedi’i garthu yn gyfreithlon.
Gollwng dŵr o ansawdd gwael
Mae’n rhaid i chi wirio a oes haenu thermol yn eich cronfa ddŵr. Ystyr haenu thermol ydy pan fo newidiadau yn y tymheredd ac ocsigen tawdd ar wahanol ddyfnderoedd yn y gronfa ddŵr.
Gall gollwng dŵr wedi’i haenu ostwng lefelau’r ocsigen tawdd a chynyddu lefelau haearn a manganîs. Gall hyn:
- achosi dirywiad yn ansawdd yr afon, i’r rhai sy’n defnyddio’r dŵr ac yn tynnu’r dŵr
- niweidio cynefinoedd pysgod a’u safleoedd bridio
- lladd pysgod ac anifeiliaid dyfrol eraill.
Yn achos cronfeydd dŵr wedi’u haenu, rhaid i’ch asesiad risg gynnwys proffilio ar gyfer:
- ocsigen tawdd
- tymheredd
Rydym yn annhebygol o ganiatáu gollyngiad os yw’r gwaith proffilio yn dangos bod dirlawnder yr ocsigen tawdd yn is na 50% ym mhroffil isaf y gronfa ddŵr.
Os yw’ch gwaith proffilio yn dangos llai nag 80% o ocsigen tawdd, dylech fonitro’r cwrs dŵr i lawr yr afon pan gaiff y dŵr ei ollwng. Dylai eich asesiad risg bennu terfyn sbardun i lawr yr afon ar gyfer ocsigen tawdd. Os bydd lefelau’r ocsigen tawdd yn gostwng o dan y terfyn hwn, stopiwch y gollyngiad a rhoi gwybod i ni.
Gall gordyfiant algâu mewn cronfeydd dŵr achosi gollyngiadau ansawdd dŵr gwael. Ni ddylech wneud gollyngiadau wedi’u cynllunio os oes gordyfiant sylweddol o algâu, oni bai eich bod wedi dangos nad yw’r gordyfiant yn effeithio ar ansawdd y dŵr a ollyngir.
Rhyddhau pysgod
Gall gollyngiadau dŵr ddisodli pysgod o’r gronfa ddŵr i lawr yr afon.
Mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith ar bysgod os ydych chi’n bwriadu gostwng lefel y dŵr mewn cronfa yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys gostwng lefel y dŵr i lefel barhaol is a hefyd i lefel is dros dro er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw cyn i chi ail-lenwi.
Dylech gysylltu â ni a gofyn i gael siarad â’ch tîm amgylchedd lleol. Efallai y bydd angen i chi achub y pysgod fel y gallwch eu hadleoli mewn man arall neu ailstocio’r gronfa ddŵr ar ôl i chi ei hail-lenwi.
Systemau rheoli
Rhaid i’ch system reoli ddangos sut y byddwch chi’n gwneud y gollyngiad gyda’r lefel isaf bosib o lygredd, ynghyd â pha gamau y byddwch yn eu cymryd os bydd eich gweithgaredd yn arwain at ddigwyddiad llygredd.
Bydd angen i chi egluro mesurau ychwanegol i atal llygredd os yw’r gweithgaredd mewn lleoliad sensitif neu’n agos leoliad sensitif.
Byddwn ond yn rhoi caniatâd i chi os ydych wedi lliniaru’r risgiau cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.