Gwneud cais i newid trwydded gwastraff bwrpasol
BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i newid i, neu i amrywio trwydded wastraff bwrpasol.
Cyn i chi ddechrau
Mae angen i chi wybod:
- rhif y drwydded
- unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio
- ynghylch hawlio cyfrinachedd a diogelwch gwladol
- pa ddatganiadau i’w gwneud
- pa newidiadau y gallwch eu gwneud a’n taliadau ni
- sut i dalu
Yna, dim ond gwybodaeth newydd neu wybodaeth sydd wedi’i newid sydd angen i chi ei rhoi i ni.
Newidiadau gweinyddol
Mae arnom angen y manylion newydd a chrynodeb byr o’r newidiadau yr ydych am eu gwneud.
Cydgrynhoi trwyddedau
Ysgrifennwch grynodeb sy’n egluro eich cais, mewn iaith annhechnegol gymaint â phosibl.
Rhaid i chi wedyn ddweud wrthym am eich system reoli.
Os oes unrhyw wybodaeth arall wedi newid ers eich cais am drwydded, rhaid i chi ddweud wrthym.
Efallai y bydd arnom angen gwybodaeth ychwanegol felly byddem yn eich cynghori i siarad â ni cyn i chi gyflwyno unrhyw gais i foderneiddio neu gydgrynhoi trwyddedau.
Ychwanegu neu newid gweithgareddau trwydded wastraff bwrpasol
Ysgrifennwch grynodeb sy’n egluro eich cais, mewn iaith annhechnegol gymaint â phosibl.
Yna bydd angen i chi ddweud wrthym am y gweithgareddau gwastraff newydd neu’r rhai sydd wedi newid. Darganfod pa wybodaeth am eich gweithgareddau gwastraff y gall y bydd angen i chi ei rhoi.
Os oes unrhyw wybodaeth arall wedi newid ers eich cais am drwydded, rhaid i chi roi gwybod inni.
Ychwanegu gweithgareddau gwastraff at drwydded sydd heb fod yn drwydded wastraff
Os ydych yn gwneud cais i ychwanegu gosodiadau gwastraff neu weithrediadau gwastraff at drwydded nad oedd yn eu cynnwys o’r blaen, rhaid i chi hefyd roi manylion am y canlynol:
- gallu technegol y gweithredwr
- manylion systemau rheoli
- a yw troseddau yn effeithio ar bobl berthnasol
- a yw ansolfedd neu fethdaliad yn effeithio ar bobl berthnasol
Ardaloedd newydd o dir
Ar gyfer unrhyw ardaloedd newydd o dir, mae’n rhaid i chi ddarparu adroddiad cyflwr safle (H5).
Rhaid i chi hefyd anfon cynllun (neu gynlluniau) safle manwl atom yn dangos y canlynol:
- lleoliad y safle, yr ardal a gwmpesir gan yr adroddiad cyflwr safle, a lleoliad a natur y gweithgareddau a/neu gyfleusterau gwastraff ar y safle
- lleoliadau derbynyddion, ffynonellau allyriadau/rhyddhau, a phwyntiau monitro
- draeniau’r safle
- arwyneb y safle
Graddfeydd amser
Byddwn yn gwneud penderfyniad cyn pen pedwar mis o dderbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.
Byddwn yn gwirio eich cais ac yn cadarnhau a yw’n gyflawn ac, os bydd yn gyflawn, fe’i nodir fel hyn: ‘wedi’i wneud yn briodol’. Os na fydd yn gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych. Nid yw’r amserlen benderfynu o bedwar mis yn dechrau nes byddwn wedi ystyried bod y cais ‘wedi’i wneud yn briodol’.