Trwyddedu rhywogaethau planhigion a warchodir gan Ewrop
Mae rhai rhywogaethau o blanhigion wedi dirywio i’r fath raddau ledled Ewrop fel eu bod yn cael eu gwarchod gan y gyfraith erbyn hyn. Mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’) yn gweithredu Cyfarwyddeb Cynefinoedd y CE 1992 fel rhan o gyfraith y DU, sef y gyfarwyddeb sy’n rhestru’r rhywogaethau hyn.
Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod rhywogaethau prin hyn.
Rhywogaethau planhigion
Mae’r rhywogaethau canlynol sydd i’w gweld yng Nghymru yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop ac wedi’u rhestru ar Atodlen 5 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017:
- Tegeirian y Fign, Liparis loeselii
- Llyriad-y-dŵr arnofiol, Luronium natans
- Rhedynen wrychog, Trichomanes speciosum
- Tafolen y Traeth, Rumex rupestris
O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n drosedd tynnu, casglu, torri, dadwreiddio neu ddinistrio planhigyn gwyllt sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop.
Trwyddedu
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn galluogi gweithgareddau sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir gan Ewrop, a fyddai’n droseddau fel arall. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a nodir yn y Rheoliadau, os bodlonir y tri phrawf canlynol:
- Mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd
- Nid oes dewis boddhaol arall yn lle'r gwaith arfaethedig ac
- Ni fydd y gweithgarwch arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol
Dibenion trwyddedu
O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:
- diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig eraill yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
- dibenion gwyddonol ac addysgol
- gwarchod planhigion gwyllt neu eu cyflwyno i ardaloedd penodol
Pwy all wneud cais am drwydded
Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig
Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:
- drwydded i werthu, cyfnewid neu cynig i werthu neu cefnewid unrhyw blanhigyn gwyllt
- drwydded i bigo, casglu neu ddinistrio planhygion gwyllt
- gwaith arolygu neu gadwraeth
- meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.