Cofrestr gyhoeddus: gwybodaeth trwyddedu amgylcheddol, adnoddau dŵr a thrwyddedu morol
Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho meddalwedd i weld rhai dogfennau ar ein system ar-lein - er enghraifft, os nad yw'ch system e-bost yn gydnaws ag Outlook. Os nad ydych chi am wneud hyn, neu os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol neu fwy hygyrch, cysylltwch â ni
Defnyddiwch y gofrestr gyhoeddus hon i gael mynediad at wybodaeth gyhoeddus, megis dogfennau cais a dogfennau cydymffurfio ar gyfer:
- trwyddedau amgylcheddol ar gyfer gwastraff, ansawdd dŵr a diwydiant a reoleiddir
- trwyddedau adnoddau dŵr
- trwyddedau morol
Cynhyrchir dogfennau ar y gofrestr gyhoeddus gennym ni neu drydydd partïon. Gall trydydd partïon fod yn sefydliadau rydym yn ymgynghori â nhw neu’n gweithio gyda nhw, ond maent fel arfer yn ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau.
Os mai dim ond eisiau gwirio a yw trwydded amgylcheddol neu drwydded adnoddau dŵr yn weithredol ydych chi, gallwch wneud hynny drwy chwilio am y statws ar y gofrestr gyhoeddus.
Telerau ac amodau
Gallwch ddefnyddio a rhannu dogfennau a gynhyrchir gennym yn rhydd, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.
Mae dogfennau a gynhyrchir gan drydydd partïon, megis systemau rheoli, adroddiadau monitro, cynlluniau gweithredol ac yn y blaen, yn cael eu diogelu gan hawliau eiddo deallusol.
Mae'r dogfennau y mae'n ofynnol i ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau eu cyflwyno i ni yn ôl y gyfraith ar gael i chi eu darllen. Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd gan yr unigolyn neu'r cwmni sy'n berchen ar yr hawliau cyn eu defnyddio mewn unrhyw ffordd arall.
Trwy ddefnyddio a lawrlwytho dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus, rydych yn cytuno cydymffurfio â'r holl gyfyngiadau perthnasol.
Gweler ein tudalen telerau ac amodau am ragor o wybodaeth am ddefnyddio'r cynnwys sydd ar gael ar y gofrestr gyhoeddus.
Dogfennau o cyn 1 Medi 2018
Nid yw rhai dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus dyddiedig cyn 1 Medi 2018 ar gael ar hyn o bryd ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein.
Rydym yn gweithio i wella hyn. Tan hynny, defnyddiwch ein proses gofyn am wybodaeth am drwydded i weld copïau o'r dogfennau hyn.