Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Enveo Aston Ltd

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-025198
Math o gyfleuster rheoledig: Gorsaf trosglwyddo gwastraff peryglus
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Plot 15 Hawarden Industrial Park, Hawarden, Deeside, CH5 3NU

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 17 Hydref 2024.

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Caniatáu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf