Gwneud cais am drwydded ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig annibynnol sydd hefyd yn eneradur penodedig neu'n weithgaredd Rhan B
Os nad oes gennych drwydded ar hyn o bryd ond bod gennych gyfarpar hylosgi canolig presennol â mewnbwn thermol sydd rhwng 5 MW a llai na 50 MW, neu os ydych yn dymuno gosod cyfarpar hylosgi canolig newydd â mewnbwn thermol sydd rhwng 1 MW a llai na 50 MW, rhaid i chi wneud y canlynol:
Cwblhau'r ffurflen gais ar-lein
Cynnwys y ffi ymgeisio gywir gyda'r cais
Os na fyddwch yn anfon atom yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, bydd yn cymryd mwy o amser i asesu eich cais.
Os oes gennych eisoes drwydded cyfarpar hylosgi canolig, generadur penodedig, gweithrediad gwastraff neu osodiad, a bod gennych gyfarpar hylosgi canolig eisoes ar y safle, nid oes angen i chi wneud cais i amrywio eich trwydded i gynnwys y rhain ar hyn o bryd. Byddwn yn cysylltu â chi ynghylch eich cyfarpar hylosgi canolig presennol.
Os hoffech ychwanegu cyfarpar hylosgi canolig newydd at eich trwydded cyfarpar hylosgi canolig, generadur penodedig, gweithrediad gwastraff neu osodiad, defnyddiwch y ffurflenni isod.
Amrywio eich trwydded cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig / gosodiad.
Amrywio eich trwydded gwastraff.
Faint o amser sydd ei angen i brosesu cais am drwydded?
O'r adeg y byddwn yn rhoi gwybod i chi fod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i asesu eich cais, ein nod yw gwneud penderfyniad o fewn pedwar mis.
Faint mae trwydded yn ei chostio?
Bydd cost eich trwydded yn dibynnu ar p'un a yw eich cyfarpar hylosgi canolig yn cael ei ystyried yn risg uchel neu isel.
Nid yw'n ofynnol i gyfarpar hylosgi canolig / generaduron penodedig risg isel gynnal asesiad modelu ansawdd aer i asesu effaith y gweithgareddau fel rhan o'u cais am drwydded. Gelwir y rhain yn drwyddedau syml pwrpasol ac maent yn costio £3,906.
Os yw eich cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig risg isel hefyd yn weithgaredd Rhan B, y ffi yw £4,813.
Mae'n ofynnol i gyfarpar hylosgi canolig / generaduron penodedig risg uchel gynnal asesiad modelu ansawdd aer i asesu effaith y gweithgareddau a chyflwyno hwnnw gyda'u cais am drwydded. Gelwir y rhain yn drwyddedau cymhleth pwrpasol ac maent yn costio £9,978.
Os yw eich cyfarpar hylosgi canolig / generadur penodedig risg uchel hefyd yn weithgaredd Rhan B, y ffi yw £10,885.
Byddwch hefyd yn mynd i daliadau parhau, sef ffioedd blynyddol ar gyfer rheoli cydymffurfedd â'ch trwydded. Byddwn yn anfon anfoneb flynyddol atoch ar gyfer eich taliadau parhau.
A oes angen i mi fonitro allyriadau o'm boeler, injan, generadur neu dyrbin?
Ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig newydd, rhaid i chi ddechrau monitro allyriadau sylffwr deuocsid (SO2), ocsidau nitrogen (NOx), llwch a charbon monocsid o fewn pedwar mis i ddyroddi'r drwydded neu ddechrau gweithrediad, p'un bynnag yw'r diweddaraf.
Ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig presennol, byddwn yn derbyn canlyniadau monitro blaenorol ar gyfer sylffwr deuocsid (SO2), ocsidau nitrogen (NOx), llwch a charbon monocsid fel tystiolaeth o gydymffurfio â'r gwerthoedd terfyn allyriadau (ELV) perthnasol ar yr amod:
- y gallwch brofi pa gyfarpar hylosgi canolig a gafodd ei fonitro
- yr ymgymerwyd â'r gwaith monitro o fewn dwy flynedd cyn dyddiad y cais am drwydded
- y gwnaed y gwaith monitro i'r safon berthnasol
Os oes gennych gyfarpar hylosgi canolig eisoes ac nad ydych wedi monitro’r allyriadau eto, rhaid i chi ddechrau monitro cyn 1 Ionawr 2025. Byddwn yn cynnwys y dull monitro priodol y dylech ei ddefnyddio yn eich trwydded.
Bydd amodau eich trwydded hefyd yn nodi'r gofynion a'r amlder ar gyfer y gwaith monitro dilynol, a fydd yn flynyddol neu unwaith bob tair neu bum mlynedd yn dibynnu ar faint y cyfarpar.
Sut ydw i'n monitro allyriadau o'm boeler, injan, generadur neu dyrbin?
Mae dwy safon fonitro ar gael ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig a generaduron penodedig.
Monitro allyriadau staciau: cyfarpar hylosgi canolig a generaduron penodedig risg isel
Gallwch ddefnyddio safon Monitro allyriadau staciau: cyfarpar hylosgi canolig a generaduron penodedig risg isel ar gyfer y canlynol:
- cyfarpar hylosgi canolig a generaduron penodedig a ganiateir o dan drwydded bwrpasol syml
- cyfarpar hylosgi canolig unigol sydd â mewnbwn thermol graddedig sy'n llai na neu'n hafal i fewnbwn thermol o 20 MW, sydd â mewnbwn thermol o lai na 50 MW yn eu crynswth, ac sy'n defnyddio nwy naturiol neu olew nwy (olew tanwydd ysgafn), ar yr amod nad yw eich cyfarpar hylosgi canolig wedi'i leoli o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA)
- cyfarpar hylosgi canolig sy’n gweithredu am lai na 500 awr y flwyddyn, heb werth terfyn allyriadau (ELV) penodedig
- cyfarpar hylosgi canolig â generaduron diesel wrth gefn a generaduron penodedig sy'n cael eu gweithredu am lai na 50 awr y flwyddyn i'w profi, heb werth terfyn allyriadau (ELV) penodedig
- generaduron penodedig sy'n defnyddio nwy naturiol ac sydd â mewnbwn thermol graddedig sy’n llai na mewnbwn thermol o 5 MW
Ym mhob achos arall, bydd angen i chi ddefnyddio safon MCERTS.
MCERTS
Lle defnyddir systemau monitro allyriadau parhaus ar gyfarpar hylosgi canolig a generaduron penodedig, gallwch ddefnyddio Safon perfformiad MCERTS ar gyfer systemau monitro cyfarpar risg isel.
Cymorth a chyngor
Cysylltwch â ni os ydych yn dal yn ansicr a oes angen trwydded arnoch.