Trwyddedu Morol a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Mae cyrff dŵr arfordirol ac aberol yn cael eu diogelu o dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 gyda’r nod o sicrhau statws cyffredinol ‘Da’.

Rhaid i brosiect neu weithgaredd trwyddedig sydd tua’r môr o benllanw cymedrig y gorllanw ddangos na fydd yn achosi dirywiad i gorff dŵr nac yn ei atal rhag cyflawni ei amcanion. Sylwch fod statws cemegol y corff dŵr yn cael ei asesu hyd at 12 milltir forol.

Bydd angen i chi hefyd ystyried effeithiau ar gyrff dŵr sydd wedi’u cysylltu’n hydrolegol, megis afonydd – maent hefyd wedi’u diogelu o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017.

Rhaid i bob cais (ac eithrio ceisiadau gweithgaredd risg isel Band 1) hefyd ddod gydag asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

E-bostiwch wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ofyn am ein Nodyn Cyfarwyddyd (GN78) ar sut i gynnal asesiad WFD.

Gweld data ar gyrff dŵr Cymru.  

Gweld data ar gyrff dŵr Lloegr.

Diweddarwyd ddiwethaf