Gwneud cais am drwydded forol band 1
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded forol band 1.
Cyn i chi ddechrau
Mae angen i chi wybod:
- enw eich prosiect
- crynodeb o'r hyn rydych chi eisiau ei wneud
- manylion yr ymgeisydd ac unrhyw asiant
- cyfeirnod ar gyfer unrhyw gyngor cyn ymgeisio y gwnaethom ei roi i chi
- gwybodaeth am unrhyw gychod neu gerbydau y byddwch yn eu defnyddio
- dyddiadau dechrau y gwaith
- lleoliad y prosiect gan ddefnyddio hydred a lledred mewn graddau degol i bedwar lle degol
- pa ddeunyddiau y byddwch yn eu dyddodi neu'n eu tynnu, a faint ohonynt
- a oes gennych unrhyw bwerau statudol i gydsynio ag agweddau ar y gwaith ai peidio, ac o dan ba ddeddfwriaeth
Dogfennau y mae'n rhaid i chi eu lanlwytho
- Map Orolwg Ordnans neu Siart y Morlys
- Datganiadau dull
- Cynlluniau adeiladu a lluniadau trychiadol, os oes gennych rai
- Siart o'r llwybr danfon arfaethedig os ydych yn danfon deunyddiau ar y môr
- Gohebu ag ymgyngoreion
- Eich tystiolaeth, os ydych am hawlio cyfrinachedd
Diweddarwyd ddiwethaf