Pam y gallwn ddiwygio eich trwydded cwympo coed
Mae hyn ond yn berthnasol i bob cais am drwydded cwympo coed a dderbyniwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.
Pryd y gallwn ddiwygio eich trwydded cwympo coed
Mae’n bosibl y bydd angen i ni ddiwygio neu amrywio’r amodau ar y drwydded cwympo coed yn yr amgylchiadau canlynol:
- lle mae un o amodau’r drwydded yn cael ei dorri a bod hyn yn achosi neu’n debygol o achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd
- nid yw amodau’r drwydded wedi’u torri, ond rydym yn ystyried bod cwympo coed yn unol â’r drwydded yn achosi neu’n debygol o achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd
Gallwch ddarllen y Canllawiau i Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau - amodau diwygio atal dirymu ac iawndal, sy'n darparu mwy o wybodaeth ynghylch pryd y gallai fod angen i ni ddiwygio'ch trwydded a'r camau y byddwn yn eu dilyn. Byddwn bob amser yn ceisio diwygio trwydded mewn cytundeb â deiliad y drwydded fel cam cychwynnol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn diwygiad i'ch trwydded.
Cysylltwch â ni os hoffech apelio penderfyniad i ddiwygio eich trwydded.
Diweddarwyd ddiwethaf