Deall eich adroddiad archwilio cronfa ddŵr
Os nad ydych wedi penodi Peiriannydd Archwilio, dylech ddarllen ein harweiniad ar sut i drefnu archwiliad cronfa ddŵr.
Ar ôl i'ch cronfa ddŵr gael ei harchwilio, dylech gwrdd â'r Peiriannydd Archwilio a'ch Peiriannydd Goruchwylio. Gall hyn fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein. Bydd y cyfarfod yn eich helpu i ddeall beth mae'r adroddiad archwilio yn debygol o'i gynnwys fel y gallwch baratoi ar gyfer unrhyw waith sydd ei angen. Dylai'r cyfarfod fod yn brydlon, yn enwedig os nodwyd camau gweithredu ar unwaith, a dylid cynnal y cyfarfod o fewn mis i'r archwiliad ym mhob achos.
Yn y cyfarfod, dylech wirio bod y Peiriannydd Archwilio yn esbonio'r canlynol:
- y canfyddiadau cychwynnol, y camau brys, a'r mesurau rhagofalus y mae angen eu rhoi ar waith ar unwaith
- y risgiau a berir gan eich cronfa ddŵr ac unrhyw argymhellion dros dro gyda dyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer trafodaeth
- y dylai unrhyw waith sydd ei angen ddechrau ar unwaith ac nad yw’r dyddiad targed cwblhau yn cynrychioli pa mor frys ydyw ond ei fod yno fel dyddiad sbarduno ar gyfer camau gorfodi gennym ni
- ystyriaethau o ran sut y gallwch flaenoriaethu gwaith ar draws cronfeydd dŵr eraill a allai fod gennych
- yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych
Dylai'r Peiriannydd Archwilio wneud cofnod ysgrifenedig o'r cyfarfod a'i rannu gyda chi. Efallai y byddwch am wneud eich nodiadau eich hun.
Adolygu eich adroddiad archwilio
Dylai eich Peiriannydd Archwilio ddarparu adroddiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl yr archwiliad. Os bydd hyn yn cymryd mwy na chwe mis, rhaid iddo ysgrifennu atom ac egluro ei resymau dros yr oedi.
Dylech adolygu’r adroddiad drafft i wneud yn siŵr eich bod yn deall yr hyn y mae’n ei ddweud. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall goblygiadau unrhyw argymhellion ar gyfer unrhyw waith monitro, cynnal a chadw neu ddiogelwch sydd ei angen. Trafodwch faterion gyda'r Peiriannydd Archwilio a gofyn am fersiwn ddiwygiedig os yw’n briodol. Bydd y peiriannydd yn ceisio darparu ar gyfer ceisiadau o'r fath ond mae ganddo hefyd ddyletswydd i sicrhau bod y gronfa ddŵr yn cael ei chadw'n ddiogel. Efallai y bydd angen iddo wrthod ceisiadau os yw'n ystyried ei bod yn anniogel i wneud hynny.
Bydd yr adroddiad archwilio yn disgrifio eich cronfa ddŵr, yn crynhoi eich rheolaeth ohoni, ac yn darparu canfyddiadau'r archwiliad. Yn gyffredinol, bydd yn darparu'r wybodaeth ganlynol:
- Crynodeb o adroddiadau blaenorol a'r wybodaeth a adolygwyd fel rhan o'r archwiliad
- Disgrifiad o'r dirwedd, dalgylch glawiad a daeareg waelodol
- Disgrifiad o'r adeiladwaith gwreiddiol ac unrhyw newidiadau, ynghyd ag unrhyw waith sylweddol arall
- Disgrifiad o'r argaeau neu argloddiau, gorliffannau, pibellau, falfiau ac allfeydd
- Sylwadau ar yr ardaloedd i lawr yr afon o'r gronfa ddŵr
Bydd y Peiriannydd Archwilio yn asesu i ba raddau y mae adeileddau’r gronfa ddŵr yn bodloni’r safonau presennol, yn enwedig o ran pa mor dda y gall ddal a chludo lefelau dŵr gwahanol hyd at lifogydd eithafol. Bydd yr adroddiad yn cynnwys canfyddiadau'r peiriannydd, sy'n disgrifio unrhyw ddiffygion yn y dyluniad, arwyddion o ddirywiad neu welliannau i'w gwneud. Bydd y rhain yn cael eu grwpio fel a ganlyn:
- Dadansoddiad o risgiau diogelwch y gronfa ddŵr a dulliau methu posibl
- Digonolrwydd yr argaeau neu'r argloddiau
- Digonolrwydd y gronfa ddŵr i wrthsefyll dirgryniadau seismig neu ddaeargrynfeydd
- Digonolrwydd pibellau neu sianeli mewnfa ac allfa i sicrhau bod llif y dŵr yn cael ei reoli
- Sylwebaeth ar effeithiolrwydd eich rheolaeth a goruchwyliaeth, gan gynnwys monitro lefel y dŵr, darlleniadau offer a chadw cofnodion
- Cynllunio at argyfwng a digonolrwydd eich cynllun llifogydd
Bydd y Peiriannydd Archwilio yn rhoi sylwadau penodol ar statws unrhyw fesurau blaenorol i'w cymryd er budd diogelwch. Dylech roi sylw manwl i argymhellion o dan y penawdau canlynol:
Argymhellion ar fesurau i'w cymryd er budd diogelwch
Yn aml, gelwir mesurau i'w cymryd er budd diogelwch yn MIOS. Er eu bod yn cael eu galw'n argymhellion, maent yn ofynnol yn ôl y gyfraith, a rhaid ichi eu rhoi ar waith erbyn y dyddiad a roddir gan y Peiriannydd Archwilio.
Mae MIOS yn waith pwysig, a dylech wneud y gwaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r archwiliad gael ei gwblhau. Dylai eich Peiriannydd Archwilio roi digon o wybodaeth i chi yn y cyfarfod ôl-archwiliad i'ch galluogi i ddechrau cynllunio.
Gall dyddiad dyledus y MIOS fod flynyddoedd i ffwrdd, ond rhaid i chi ddechrau gweithio ar unwaith. Efallai y bydd angen caniatâd arall, megis caniatâd cynllunio gan eich awdurdod cynllunio lleol neu drwydded adnoddau dŵr neu drwydded amgylcheddol gennym ni. Yn aml, mae angen cyngor a gwaith cynllunio ar gyfer y rhain a bydd yn cymryd misoedd lawer i'w sicrhau.
Rhaid i chi benodi peiriannydd sifil cymwys o'r panel priodol i ddarparu tystysgrif cwblhau. Gall y peiriannydd hwn fod yr un un â'r Peiriannydd Archwilio ond nid oes rhaid iddo fod.
Gallwch ddefnyddio Peiriannydd Panel Pob Cronfa Ddŵr (ARPE) ar gyfer unrhyw fath o gronfa ddŵr. Gall ARPE hefyd weithredu fel canolwr os ydych yn anghytuno ag adroddiad archwilio – gweler ein harweiniad ar ddeall eich adroddiad archwilio.
Dewch o hyd i restr o holl beirianwyr paneli cronfeydd dŵr ar Gov.uk
Gallwch ddefnyddio Peiriannydd Panel Cronfeydd Dŵr Di-gronni ar gyfer cronfeydd dŵr nad ydynt yn rhwystro afon neu nant yn uniongyrchol, ond sy'n cael eu llenwi trwy bwmpio neu ddargyfeirio dŵr.
Dewch o hyd i restr o beirianwyr paneli cronfeydd dŵr nad ydynt yn cronni ar Gov.uk
Gallwch ddefnyddio Peiriannydd Panel Cronfeydd Gwasanaeth ar gyfer cronfeydd dŵr a wnaed o frics neu goncrit nad ydynt yn cronni dŵr, sydd fel arfer yn storiodŵr yfed, a’i gyflenwi.
Dewch o hyd i restr o beirianwyr paneli cronfeydd gwasanaeth ar Gov.uk
Os nad ydych yn gwybod pa fath o gronfa ddŵr sydd gennych, dylech siarad â'ch Peiriannydd Goruchwylio neu gysylltu â ni.
Dylech benodi'r peiriannydd sifil cymwys o fewn 14 diwrnod i dderbyn yr adroddiad archwilio. Bydd penodi peiriannydd sifil cymwys yn gynnar yn helpu'r dyluniad a chadarnhau y bydd eich gwaith arfaethedig yn bodloni'r argymhelliad. Os byddwch yn penodi peiriannydd sifil cymwys ran o'r ffordd drwy gwblhau'r MIOS, efallai y bydd yn rhaid i chi ailgynllunio neu ddadwneud gwaith i'w fodloni o ran yr ansawdd.
Argymhellion ar gyfer cynnal a chadw'r gronfa ddŵr
Mae'r rhain yn weithgareddau hanfodol i atal dirywiad. Mae'r argymhellion hyn yn ofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i chi eu cwblhau a pharhau i'w rheoli i'r safon a argymhellir.
Nid oes angen i chi gael tystysgrif cwblhau, ond mae gan eich Peiriannydd Goruchwylio ddyletswydd i ddarparu datganiad ar statws y gwaith cynnal a chadw, sy'n cael ei gopïo i ni, a gallwn wirio cynnydd ar unrhyw adeg.
Materion i'w gwylio gan y Peiriannydd Goruchwylio
Disgwylir i chi reoli'r gronfa ddŵr a chi sy'n gyfrifol am ei diogelwch. Eich Peiriannydd Goruchwylio sy'n gyfrifol am wylio materion penodol a nodir gan y Peirianwyr Adeiladu neu Archwilio, ac am fonitro pa mor dda yr ydych yn eu rheoli. Rydym yn eich cynghori i drafod y materion hyn gyda'ch Peiriannydd Goruchwylio, fel eich bod yn deall beth i'w wneud yn iawn.
Cyfarwyddiadau mewn perthynas â monitro a chofnodion
Gall y Peiriannydd Archwilio ragnodi unrhyw beth sydd angen ei fonitro, y cofnodion sydd i'w cadw, a dull ac amlder casglu data. Rhaid i chi gyflawni'r holl weithgareddau hyn a'u cofnodi yn eich Ffurflen Gofnod Ragnodedig.
Mesurau eraill a materion cynnal a chadw cyffredinol a diogelwch y cyhoedd
Bydd y mesurau hyn yn eich helpu i reoli eich cronfa ddŵr yn ddiogel. Nid oes angen ardystiad arnynt ond gallant gael eu harchwilio gan eich Peiriannydd Goruchwylio neu gan un o'n swyddogion.
Argymhelliad ynghylch amser yr archwiliad nesaf
Rhaid i'r Peiriannydd Archwilio gynnwys dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid archwilio'ch cronfa ddŵr eto.
Diogelwch gwybodaeth a data
Mae'r Adroddiad Archwilio terfynol yn ddogfen bwysig y dylech ei chadw am oes y gronfa ddŵr. Mae'n cynnwys gwybodaeth sensitif am eich cronfa ddŵr a gwybodaeth bersonol. Rydym yn eich cynghori i beidio â'i rannu ag unrhyw un ac eithrio'r rhai sydd ag angen gwirioneddol i wybod, er enghraifft eich Peiriannydd Goruchwylio a staff gweithredol.
Cydymffurfio a gorfodi
Rydym yn derbyn copi o'r adroddiad archwilio. Rydym yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion y Peiriannydd Archwilio yn wybodaeth bwysig am ddiogelwch eich cronfa ddŵr.
Rydym yn cofnodi ac yn olrhain yr argymhellion a wnaed gan y Peiriannydd Archwilio. Dylech roi diweddariadau rheolaidd i ni er mwyn rhoi gwybod i ni am eich cynnydd. Mae’n bosibl y byddwn yn trefnu ymweld â’ch cronfa ddŵr neu siarad â’ch Peiriannydd Goruchwylio i’n bodloni bod cynnydd boddhaol yn cael ei wneud.
Gallwn gyflwyno hysbysiad gorfodi i chi yn ei gwneud yn ofynnol i chi gwblhau materion er mwyn diogelwch. Os byddwch yn methu â chyflawni argymhellion y Peiriannydd Archwilio, gallech fod yn cyflawni troseddau.
Penodi canolwr i benderfynu ar anghytundebau
Os byddwch yn anghytuno ag adroddiad archwilio, efallai y byddwch am benodi canolwr i wneud penderfyniad annibynnol. Gallwch benodi canolwr os ydych yn anghytuno ag unrhyw un o'r argymhellion canlynol ar gyfer:
- mesurau i'w dilyn er budd diogelwch
- cynnal a chadw'r gronfa ddŵr
- amser yr archwiliad nesaf
Rhaid i'r canolwr fod yn Beiriannydd Panel Pob Cronfa Ddŵr annibynnol (gweler uchod) a benodir trwy gytundeb rhyngoch chi a'r peiriannydd sy'n gwneud yr argymhelliad. Rhaid cytuno ar y penodiad o fewn 40 diwrnod i ddyddiad yr adroddiad archwilio.
Os na allwch ddod i gytundeb o fewn 40 diwrnod, gallwch ofyn am benodi canolwr gan Weinidogion Cymru. Rhaid gwneud hyn o fewn 50 diwrnod i ddyddiad yr adroddiad archwilio. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion am hyn.
Bydd y canolwr penodedig yn adolygu’r argymhelliad ac mae ganddo’r pŵer i addasu’r adroddiad fel y gwêl yn dda. Bydd y canolwr yn cyhoeddi tystysgrif yn nodi a yw'r adroddiad wedi'i addasu ai peidio a bydd yn adolygu tystysgrif y Peiriannydd Archwilio. Bydd yr adroddiad a'r tystysgrifau wedi'u haddasu yn cael eu hanfon atoch a'u copïo atom.
Os oes gennych achos i benodi canolwr, dylech roi gwybod i ni er gwybodaeth, ond nid oes gennym yr awdurdod i benodi canolwr ar eich rhan.