Sut y gallwn ni i gyd helpu i ddiogelu dŵr daear yng Nghymru
Beth yw dŵr daear?
Dŵr daear yw'r dŵr sy'n cael ei storio mewn pridd a chreigiau o dan y ddaear a elwir yn ddyfrhaenau. Mae'n rhan hollbwysig o'r cylch dŵr sy’n aml yn mynd yn angof. Mae dŵr daear yn adnodd hanfodol, sy'n cynnal ein ffynhonnau, ein hafonydd a'n gwlyptiroedd, gan ddarparu cynefinoedd ar gyfer llawer o rywogaethau.
Gellir ei gasglu i’w ddefnyddio fel dŵr yfed neu ar gyfer diwydiant a ffermydd drwy ddefnyddio tyllau turio gyda phympiau. Ar hyn o bryd mae dŵr daear yn cyflenwi tua 5% o'r cyflenwad dŵr cyhoeddus yng Nghymru ond mewn ardaloedd gwledig, gall dŵr daear fod yr unig ffynhonnell ddŵr ymarferol ar gyfer eiddo anghysbell.
Rydym yn gweld mwy o ddefnydd o bympiau gwres dŵr daear sy'n defnyddio’r gwres sy'n cael ei storio'n naturiol mewn dŵr daear i wresogi cartrefi a busnesau. Gall y systemau hyn wneud cyfraniad pwysig wrth i ni geisio lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ar gyfer gwresogi.
Beth allwch chi ei wneud i helpu i ddiogelu dŵr daear?
Mae yna gamau syml y gallwn i gyd eu cymryd i warchod dŵr daear a'i ddiogelu rhag llygredd.
- Os oes gennych danc olew gwresogi, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych am arwyddion o ollyngiadau
- Sicrhewch fod eich system trin carthffosiaeth yn cael ei chynnal a’i chadw a’i bod wedi’i chofrestru gyda ni
- Storiwch a gwaredwch gemegion yn y modd cywir, peidiwch â’u harllwys ar y ddaear neu i mewn i ddraeniau
- Sicrhewch eich bod yn defnyddio dŵr yn effeithlon yn y tŷ a’r ardd
- Rhowch wybod i ni am unrhyw achosion o lygredd neu os ydych yn amau bod dŵr yn cael ei dynnu’n anghyfreithlon
Risgiau i ddŵr daear
Mae dŵr daear yn agored i lygredd, ac ar ôl ei lygru gall fod yn anodd ac yn ddrud i'w lanhau. Ein nod yw atal niwed i ddŵr daear yn y lle cyntaf yn hytrach na gorfod ei adfer yn nes ymlaen. Dyma rai o’r gweithgareddau mwyaf cyffredin yng Nghymru sy’n gallu llygru dŵr daear:
- Gweithgareddau amaethyddol fel gwasgaru defnydd yn amhriodol ar dir a gollyngiadau slyri
- Gollyngiadau o danciau olew gwresogi cartrefi
- Systemau trin carthffosiaeth nad ydynt yn gweithio’n iawn
Hefyd, mae perygl i ddŵr daear gael ei orddefnyddio mewn llawer o ardaloedd, lle mae mwy o ddŵr yn cael ei dynnu o ddyfrhaenau nag sy'n cael ei gyflenwi gan law. Rydym yn defnyddio ein polisïau trwyddedu tynnu dŵr i reoli gweithgareddau tynnu dŵr yng Nghymru er mwyn atal hyn rhag digwydd.
Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddŵr daear yng Nghymru. Rydym yn disgwyl cyfnodau mwy dwys o law, a hynny dros gyfnod mwy cyfyngedig yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn golygu na fydd rhai o'n dyfrhaenau’n gallu llenwi cystal ag y maen nhw ar hyn o bryd, ac rydym yn debygol o weld mwy o gyflenwadau dŵr daear, fel ffynhonnau, yn sychu.
Sut rydym yn diogelu dŵr daear yng Nghymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mabwysiadu dull Asiantaeth yr Amgylchedd o ddiogelu dŵr daear sydd ar gael ar gov.uk. Mae hwn yn amlinellu:
- ein nodau a’n hamcanion ar gyfer dŵr daear
- ein hymagwedd at ei reoli a’i ddiogelu
- ein safbwynt a’n hymagwedd at ddefnyddio deddfwriaeth berthnasol
- yr offer rydym yn eu defnyddio i wneud ein gwaith
- canllawiau technegol ar gyfer arbenigwyr ar ddŵr daear
Bydd y tudalennau hyn, a'r datganiadau sefyllfa sydd ar y tudalennau, o ddiddordeb i ddatblygwyr, cynllunwyr, ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau amgylcheddol, tynwyr dŵr, gweithredwyr, ac unrhyw un y mae ei weithgareddau presennol neu arfaethedig yn cael effaith ar ddŵr daear, neu y mae dŵr daear yn effeithio arnynt.
Mae ein staff yn defnyddio'r datganiadau sefyllfa hyn fel fframwaith i wneud penderfyniadau ar y ceisiadau cynllunio a’r ceisiadau trwyddedu amgylcheddol rydym yn eu cael.
Prif nod y datganiadau sefyllfa yw atal llygredd mewn dŵr daear a'i ddiogelu fel adnodd. Mae diogelu dŵr daear yn nod hirdymor, felly gobaith yr egwyddorion a'r datganiadau sefyllfa hyn yw diogelu a gwella'r adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Sut ydym yn monitro dŵr daear yng Nghymru?
Mae gennym rwydwaith o safleoedd ledled Cymru lle rydym yn monitro ansawdd a lefel dŵr daear.
Mae ein data ar ansawdd dŵr daear yn dangos cyflwr presennol dŵr daear yng Nghymru ac yn gadael i ni weld ble y gallai fod yn cael ei lygru gan weithgareddau ar dir cyfagos. Rydym hefyd yn eu defnyddio i chwilio am fathau newydd o halogyddion.
Mae ein data ar lefel dŵr daear yn ein helpu i weld faint o ddŵr sydd ar gael yn ein dyfrhaenau ac yn ein galluogi i ddeall ble y gallai newid yn yr hinsawdd neu batrymau tynnu dŵr fod yn cael effaith.
Os hoffech gael gafael ar y data yma, gallwch gysylltu â ni i ofyn amdano.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am ddŵr daear
I gael rhagor o gyngor gennym ar sut i reoli’r risgiau y gallai’ch gweithgareddau eu peri i ddŵr daear, ewch i dudalennau ein gwasanaeth cynghori dewisol isod. Mae’r rhain yn disgrifio’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig a faint y byddwn yn ei godi am y cyngor hwn.
Cyngor ar drwyddedau tynnu dŵr
Cyngor ar drwyddedau amgylcheddol
I gael gafael ar y data, y mapiau neu’r adroddiadau rydym yn eu cadw ar ddŵr daear yng Nghymru, ewch i’r dudalen Cael mynediad i’n data.
I roi gwybod am ddigwyddiad llygredd, ewch i’n tudalen ‘Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol’.