Ailgylchu yn y gweithle: gwahanu eich gwastraff ar gyfer ei gasglu
Rhaid i bob gweithle wahanu gwastraff penodol y gellir ei ailgylchu fel y bydd yn barod i'w gasglu.
Rhaid i gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu gasglu'r gwastraff hwn ar wahân a'i gadw ar wahân.
Gwastraff y mae'n rhaid i chi ei wahanu
Rhaid i weithleoedd wahanu’r mathau canlynol o wastraff ar gyfer ei gasglu:
- Gwastraff bwyd
- Gwydr
- Papur a chardfwrdd
- Metelau a chartonau
- Tecstilau heb eu gwerthu
- Offer trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu;
Er mwyn darganfod yn union pa wastraff y dylid ei roi mewn ffrwd wastraff benodol - a beth na ddylai ei roi yno - ewch yn syth i atodiadau 1-6 Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân: Cod Ymarfer Cymru (LLYW.CYMRU).
Bydd yr atodiadau yn dweud wrthych, er enghraifft, na ddylid rhoi derbynebau til, cardiau crafu a thywelion papur yn y ffrwd gwastraff 'papur a cherdyn'.
Sut i gydymffurfio â'r gyfraith
Darllenwch Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân: Cod Ymarfer Cymru (LLYW.CYMRU). Mae’n cynnwys gwybodaeth am, er enghraifft:
- gofynion gwahanu gweithleoedd, casglwyr a thrinwyr
- gwastraff nad yw'n dod o dan y gofynion
- pa wastraff i'w gynnwys, neu beidio â'i gynnwys ym mhob ffrwd
- beth yw ystyr ‘mangreoedd annomestig’
Mae canllawiau ailgylchu yn y gweithle gan WRAP yn cynnwys canllawiau sector-benodol, a chanllawiau ar gyfer mentrau bach a chanolig.
Mae canllawiau i gasglwyr gwastraff ar sut y gallwch baratoi eich cwsmeriaid (LLYW.CYMRU) yn egluro beth mae'r gyfraith yn ei olygu i chi.
Sut rydym yn eich rheoleiddio
Ni yw’r rheoleiddiwr ar gyfer casglu gwastraff ar wahân ar gyfer gofynion ailgylchu yng Nghymru.
Mae’n bosibl y byddwn yn ymweld â chi neu’n cysylltu â chi i wirio eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth am eich trefniadau casglu gwastraff.
Cadw cofnodion i ddangos cydymffurfiaeth
Cadwch gofnodion perthnasol i ddangos cydymffurfiaeth i ni.
Gallai’r dystiolaeth hon fod yn ddogfennau yr ydych eisoes yn eu cadw, gan gynnwys:
- nodiadau trosglwyddo gwastraff
- cytundebau neu gontractau y gallai fod gennych wedi’u trefnu
cwmni rheoli gwastraff - contractau sydd gennych gyda'ch cwsmeriaid os ydych yn gasglwr
Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r gyfraith, gallai olygu fod eich gweithle yn cael dirwy.