Gwastraff peryglus: darganfod a oes angen i chi gyflwyno ffurflen a phryd
Mae ffurflen traddodai gwastraff peryglus yn hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am wastraff peryglus sydd wedi’i dderbyn, ei symud neu ei waredu ar safle.
Mae’r ffurflen yn rhoi crynodeb manwl o bob llwyth gwastraff ac mae’n ofynnol bob chwarter o dan Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005.
Pwy sydd angen anfon ffurflen
Rydych yn cael eich ystyried yn “draddodai” a rhaid i chi gyflwyno ffurflen traddodai gwastraff peryglus os ydych yn:
- gweithredu depo gwasanaethau symudol sy'n derbyn gwastraff a gynhyrchir gan staff mewn safleoedd cwsmeriaid
- symud eich gwastraff peryglus eich hun rhwng safleoedd eich busnes
- derbyn gwastraff peryglus a ddychwelwyd gan eich cwsmeriaid
- gweithredu cyfleuster gwastraff esempt neu a ganiateir sy'n derbyn gwastraff peryglus gan eraill
- gweithredu safle esempt neu a ganiateir sy’n gwrthod gwastraff peryglus (er enghraifft, oherwydd na chaniatawyd i’r safle ei dderbyn)
- cael gwared ar wastraff peryglus ar y safle lle cafodd ei gynhyrchu
Beth i'w gynnwys yn eich ffurflen
Bydd angen i chi ddilyn y tri cham ar gyfer paratoi, gwirio a chyflwyno eich ffurflen gwastraff peryglus.
Hyd yn oed os na wnaethoch ddelio â gwastraff peryglus mewn cyfnod adrodd, mae'n dal yn rhaid i chi anfon ffurflen.
Mae gennym benderfyniadau rheoleiddiol (rhanddirymiadau) sy'n lleihau'r gofynion adrodd ar gyfer 11 o ffrydiau peryglus. Darganfyddwch fwy ar dudalen “Llai o gofnodi, adrodd a thaliadau i dderbynwyr”.
Pryd i anfon ffurflen traddodai
Rhaid i chi roi gwybod i ni am eich gweithgareddau ar gyfer pob cyfnod o dri mis (chwarter) o fewn un mis i ddiwedd y chwarter hwnnw:
- Ch1: 1 Ionawr – 31 Mawrth
dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen – 30 Ebrill
- Ch2: 1 Ebrill – 30 Mehefin
dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen – 31 Gorffennaf
- Ch3: 1 Gorffennaf – 30 Medi
dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen – 31 Hydref
- Ch4: 1 Hydref – 31 Rhagfyr
dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen – 31 Ionawr
Ein taliadau am ffurflen gwastraff peryglus
Taliadau am ffurflen traddodai a gyflwynir ar ffurf electronig neu bapur.
Ffurflen electronig
- Llwyth gwastraff sengl: £10 y llwyth
- Llwythi gwastraff lluosog (casgliad sengl yn cwmpasu mwy nag un llwyth): £5 y llwyth
- Ffurflen wag (dim llwythi am y chwarter): dim tâl
Ffurflen bapur
- Llwyth gwastraff sengl: £19 y llwyth
- Llwythi gwastraff lluosog (casgliad sengl yn cwmpasu mwy nag un llwyth): £10 y llwyth
- Ffurflen wag (dim llwythi am y chwarter): dim tâl