Archwiliwch danc olew eich cartref i sicrhau nad yw’n gollwng
Cynnal archwiliadau misol
Bob mis, dylech wneud y canlynol:
- torri tyfiant yn ôl gan y gallai hynny guddio cyflwr y tanc
- gofalu nad oes unrhyw lystyfiant marw o gwmpas y tanc
- gwneud yn siŵr nad yw gwaelod neu sylfaen y tanc yn cracio neu’n suddo
- archwilio pob pibell, falf a hidlwr sydd yn y golwg ar gyfer difrod ac unrhyw arwydd o ollyngiadau
- gwirio’r system atal eilaidd (byndiau tanciau) ar gyfer hylif neu sbwriel
- gwirio nad oes unrhyw olew na dŵr mewn cynwysyddion diferu pibellau llenwi o bell
- sicrhau bod gan y tanc fesurydd cynnwys sy’n gweithio – ac os oes ganddo falf, gofalu ei bod wedi cau
Os oes gennych danc metel, cofiwch chwilio am:
- arwyddion o rydu, tyllu a phaent yn pothellu
- leithder olew ar bob asiad a weldiad
Os oes gennych danc plastig, cofiwch chwilio am:
- arwyddion fod y tanc yn gwynnu, cracio neu fod y plastig yn hollti
- chwyddo neu unrhyw anffurfio ym mhroffil y tanc
Os byddwch yn dod o hyd i broblem yn ystod eich gwiriadau
Os ydych chi'n gweld unrhyw beth rydych chi'n poeni yn ei gylch neu sydd wedi newid ers i chi edrych arno ddiwethaf, cofiwch ofyn am gyngor gan beiriannydd cofrestredig OFTEC (Y Gymdeithas Dechnegol Llosgi Olew).
Ni ellir atgyweirio tanciau olew plastig. Bydd angen tanc olew newydd arnoch os bydd wedi dechrau dangos arwyddion o ddirywiad.
Goruchwylio cyflenwadau sy’n cyrraedd
Dylech oruchwylio cyflenwad o olew sy’n cyrraedd fel nad yw eich tanc byth yn cael ei orlenwi. Peidiwch ag archebu mwy o olew nag y gallwch ei storio'n ddiogel.
Monitro faint o olew ydych chi'n ddefnyddio
Os yw faint o olew rydych chi’n ddefnyddio yn gostwng yn gyflym yna mae’n bosib bod y tanc yn gollwng. Dylech archwilio eich tanc a’r pibellau ar unwaith.
Gall dyfeisiau sy’n monitro tanciau roi rhybudd cynnar os bydd gostyngiad cyflym yn lefel yr olew.
Beth ddylech chi ei wneud os yw eich tanc yn gollwng
Os yw eich tanc yn dechrau gollwng, dylech atal y llif olew rhag cyrraedd adeiladau cyfagos, cyrsiau dŵr neu rhag llifo i ddraeniau.
Bydd angen gweithredu’n gyflym i:
- atal y llif yn ei fan cychwyn trwy gau’r tap
- ceisio dod o hyd i ffynhonnell y gollyngiad a lleihau’r llif
- defnyddio tywod i amsugno unrhyw olew sy’n arllwys ar y ddaear
Pobl y bydd angen i chi gysylltu â nhw
Rhowch wybod i'ch darparwr yswiriant a fydd yn trefnu fod contractwyr yn ymateb i’r arllwysiad. Ni fydd tanciau a phibellau sydd heb gael eu cynnal a’u cadw yn gywir yn cael eu hyswirio.
Os yw'r gollyngiad olew gwresogi wedi llygru nentydd, pyllau dŵr, afonydd neu lynnoedd rhowch wybod i ni.
Cysylltwch â'ch cyflenwr tanwydd i ofyn iddo gasglu’r tanwydd sy'n weddill cyn gynted ag y bo modd. Gallwch geisio penderfynu faint o danwydd a gollwyd o'r tanc trwy wirio cofnodion o ddefnydd blaenorol o’r olew a dderbyniwyd gan eich cyflenwr.
Sicrhewch fod unrhyw waith atgyweirio yn cael eu gwneud gan Beiriannydd Cofrestredig y Gymdeithas Dechnegol Tanio Olew (OFTEC).
Gwasanaethu ac yswiriant
Trefnwch fod y boeler, y tanc ac unrhyw bibellau tanddaearol yn cael eu gwasanaethu'n flynyddol gan Beiriannydd Cofrestredig y Gymdeithas Dechnegol Tanio Olew (OFTEC).
Gofalwch fod gennych yswiriant ar gyfer eich tanc storio - darllenwch y geiriad yn ofalus.