Cludo Pren
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Materion Pren
Camau diogelwch
Fel rhan o’n camau diogelwch, mae’r Tîm Gwerthu a Marchnata yn gweithredu llinell anfon ganolog (0300 065 4000).
Dylai’r holl bren sy’n cael ei godi o goetir Llywodraeth Cymru:
- Gael ei gofnodi ar nodyn cludo (tocyn) dilys.
- Cael ei awdurdodi drwy ffonio’r llinell anfon i gael rhif PIN cyn i'r llwytho ddechrau.
Dogfennau defnyddiol
Disgwylir i'r holl gludwyr sy'n gweithredu yng nghoetiroedd Llywodraeth Cymru ddilyn y Cod Ymarfer Cludo Pren.
Cau ffyrdd coedwig
Rydym yn hyrwyddo manteision cymdeithasol a chymunedol coetiroedd Cymru yn yr adran Coetiroedd a Chi.
Rydyn ni'n caniatáu i lawer o ddigwyddiadau mawr gael eu cynnal ar ystâd Llywodraeth Cymru. Er mwyn iechyd a diogelwch cludwyr a’r cyhoedd, bydd y tîm Gwerthu a Marchnata yn gosod cyfyngiadau ar gludo coed mewn mannau yng Nghymru lle mae caniatâd wedi’i roi ar gyfer digwyddiadau mawr.
Caiff ffyrdd coedwig eu cau i gludwyr ar yr adegau hyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cau ffyrdd coedwig, cysylltwch â'r ddesg gymorth e-Werthiant Coed.