Sut i storio, rheoli a gwaredu deunyddiau amaethyddol mewn amgylchiadau eithriadol

Rheoli a gwaredu deunyddiau amaethyddol mewn amgylchiadau eithriadol

Gall taenu, rheoli neu waredu deunyddiau amaethyddol yn amhriodol achosi niwed i'r amgylchedd a'r pridd, a llygredd dŵr. Mae'r risg hon yn codi os yw taenu neu reoli anghywir yn digwydd yn ystod amgylchiadau eithriadol, er enghraifft yn ystod tywydd eithafol.

Mae'n rhaid ichi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru os oes un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae perygl y bydd eich storfa o unrhyw ddeunydd amaethyddol (e.e. slyri) yn gorlifo neu ollwng
  • ni allwch osgoi taenu ar dir amaethyddol ac mae perygl o ddŵr ffo, llifo i mewn i ddraeniau tir neu drwytholchi
  • rydych mewn perygl o dorri’r gofynion cyfreithiol ar gyfer storio silwair a slyri o dan y rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol.

Mae rhagor o fanylion am Barthau Perygl Nitradau yma.

Mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) os oes perygl y byddwch chi’n torri gofynion cyfreithiol Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid

Darllen Arweiniad ar fioddiogelwch a sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Diffiniad 'amgylchiadau eithriadol' a phryd y maent yn berthnasol

Mae'r arweiniad hwn ond yn gymwys yn ystod amgylchiadau eithriadol. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu pan fydd amgylchiadau eithriadol yn gymwys.

Amgylchiadau eithriadol yw'r rhai nad ydynt yn gyffredin nac yn arferol neu na ellir cynllunio ar eu cyfer.

Er enghraifft:

  • hafau hir eithriadol o sych 1976 a 2018
  • llifogydd sylweddol
  • amhariadau sylweddol i amaethyddiaeth a chadwyni cyflenwi bwyd

Nid ydynt yn gymwys i amgylchiadau y gellir cynllunio ar eu cyfer. Er enghraifft, rhagor o lawiad yn y gaeaf na’r hyn sy’n gyffredin, newidiadau ym mholisi'r llywodraeth a gynlluniwyd.

Cynllun wrth gefn

Mae'n rhaid i chi fod â chynllun wrth gefn ar waith sy'n anelu at atal llygredd rhag digwydd a lliniaru ei effeithiau.  Dylai gynnwys adran benodol i'ch helpu i atal llygredd yn ystod amgylchiadau eithriadol.

Mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich holl staff a chontractwyr yn ymwybodol o'ch cynllun wrth gefn. Dylai gynnwys archwiliadau maes i ystyried perygl llygryddion yn mynd i mewn i ddŵr wyneb neu ddŵr daear.

Dylid gweithio gyda ffermydd cyfagos i greu eich cynllun wrth gefn os yw hynny’n bosibl.

Yn ystod amgylchiadau eithriadol, defnyddiwch yr hierarchaeth o opsiynau ganlynol ar gyfer eich cynllun wrth gefn. 1 yw'r mwyaf ffafriol a 5 yw'r lleiaf ffafriol.

  1. Storio'r deunydd amaethyddol yn y lle y’i cynhyrchir neu mewn lle a reolir gan y cynhyrchydd.
  2. Storio'r deunydd amaethyddol yn y lle y’i defnyddir.
  3. Ystyried unrhyw botensial i ailddefnyddio'r deunydd cyn ei daflu.
  4. Adfer y deunydd amaethyddol mewn cyfleuster triniaeth fiolegol â thrwydded briodol, e.e. gwaith treulio anaerobig, compostio ac ati.
  5. Cael gwared â deunydd mewn cyfleuster trin gwastraff â thrwydded briodol. Ni all wastraff hylifol fynd i safle tirlenwi.
  6. Storio'r deunydd amaethyddol oddi ar y safle. Sylwer bod rhaid i chi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych yn bwriadu gwneud hyn.
  7. Gwaredu deunydd amaethyddol ar y fferm yn unol â'r arweiniad hwn.

Mae arweiniad ychwanegol ar gael yn 'Arweiniad ynghylch gweithredu'r hierarchaeth gwastraff' gan Lywodraeth Cymru.

Slyri

Lleihau maint y slyri yr ydych yn ei gynhyrchu

Yn y lle cyntaf yn ystod amgylchiadau eithriadol, dylech leihau maint y slyri (gan gynnwys dŵr wedi'i faeddu ychydig) yr ydych yn ei gynhyrchu.

Dylech wneud y canlynol:

  • golchi tai godro â system pibell cyfaint isel (0.6 metr ciwbig y fuwch y mis neu 20 litr y fuwch y dydd)
  • cael gwared â gormodedd o dail â brwsh neu wesgi cyn dyfrio er mwyn lleihau faint o ddŵr golchi y mae angen i chi ei ddefnyddio
  • cadw anifeiliaid ar wellt i gynhyrchu tail solet yn hytrach na slyri
  • dargyfeirio dŵr wyneb anhalogedig i ffwrdd o iardiau budr
  • cadw da byw ar yr ardal iard leiaf sydd ei hangen neu eu symud iddi
  • gosod, cynnal neu atgyweirio cafnau a pheipiau dŵr glaw, yn enwedig ar doeau sy'n draenio ar iardiau budr
  • ystyried gorchuddio ardaloedd iard agored sydd wedi’u baeddu

Storio dros dro

Dim ond pan nad yw’r storfa bresennol yn ddigonol y dylid ystyried storio slyri dros dro. Fel arfer, rhaid i chi gydymffurfio â Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (CoAPR) er mwyn storio slyri.

Os, mewn amgylchiadau eithriadol, ydych wedi defnyddio pob opsiwn arall ar gyfer defnyddio slyri a’i waredu oddi ar y safle, ni fyddwn yn gorfodi’r gofynion CoAPR llawn os ydych am storio slyri am lai na 12 mis ac ar yr amod eich bod yn cydymffurfio â’r amodau isod.

Gallwch ddysgu mwy am reoliadau rheoli llygredd amaethyddol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'n rhaid i chi gytuno ar leoliad ac adeiladwaith systemau storio dros dro gyda ni cyn i chi eu hadeiladu, ac mae'n rhaid i chi eu datgomisiynu cyn gynted ag nad oes eu hangen mwyach.

Gallai storfeydd dros dro gynnwys y canlynol:

  • adfer storfeydd segur
  • adfer tanciau
  • tanciau newydd
  • lagwnau clawdd pridd
  • lagwnau wedi'u leinio
  • bagiau slyri

Er mwyn cadw slyri mewn storfa dros dro, mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • gwirio gofynion cynllunio gyda'ch awdurdod cynllunio lleol
  • cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn ei hadeiladu
  • cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch
  • cytuno ar bob lleoliad unigol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru
  • gosod tanciau, leineri a bagiau slyri yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • sicrhau bod sylfaen lagwnau clawdd pridd uwchben y lefel trwythiad – dylai fod o leiaf un metr o isbridd clai o dan y sylfaen arfaethedig
  • defnyddio leineri lle mae amheuaeth o ran hydreiddedd y pridd – dylai leineri gradd is fod yn ddigonol ar gyfer storio dros dro ond defnyddiwch leineri gradd uchel mewn ardaloedd o berygl uchel i ddŵr daear
  • ei monitro i sicrhau nad oes unrhyw ollyngiadau
  • ei lleoli o leiaf 30 metr o gyrsiau dŵr a draeniau tir
  • ei lleoli o leiaf 50 metr o ffynonnellau dŵr daear ac nid o fewn parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1
  • peidio â’i rhoi o fewn safle dynodedig
  • ei datgomisiynu cyn gynted ag nad oes ei angen mwyach, ac o fewn 12 mis o'r defnydd cyntaf

Os ydych yn defnyddio cyfleusterau a rennir, mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • ystyried unrhyw risgiau bioddiogelwch
  • cytuno ar drefniadau rheoli a'u dogfennu
  • cytuno ar bwy sy'n gyfrifol a'i ddogfennu

Am fwy o wybodaeth am storio slyri, gweler CIRIA: Seilwaith storio gwrtaith da byw a silwair ar gyfer amaethyddiaeth.

Sut i daenu slyri ar dir

Mae'n rhaid i chi ond taenu slyri ar dir yn unol â Chod Arferion Amaethyddol Da. Os ydych o fewn Parth Perygl Nitradau, mae'n rhaid ichi hefyd ddilyn y rheolau hynny. Os nad ydych yn gallu cydymffurfio â gofynion y Cod Arferion Amaethyddol Da a rheolau Parthau Perygl Nitradau yn ystod amgylchiadau eithriadol, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn ichi daenu ar dir.

Rhaid i chi wasgaru slyri i dir yn unig yn unol â rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol.

Llaeth

Lleihau maint y llaeth yr ydych yn ei gynhyrchu

Yn y lle cyntaf yn ystod amgylchiadau eithriadol, dylech leihau maint y llaeth yr ydych yn ei gynhyrchu trwy sychu buchod a lleihau bwyd.

Storio dros dro

Os ydych chi, yn ystod amgylchiadau eithriadol, wedi disbyddu'r holl opsiynau eraill i'w ddefnyddio a'i waredu oddi ar y safle, gallwch storio llaeth gwastraff yn ddiogel i'w adfer neu ei waredu yn y man cynhyrchu am lai na 12 mis cyn iddo gael ei gasglu o dan Eithriad Gwastraff 2 y Gyfarwyddeb Fframwaith Diwastraff.

Mae'n rhaid i chi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn adeiladu a chytuno ar leoliad ac adeiladwaith y systemau storio dros dro gyda ni cyn ichi eu hadeiladu ac mae'n rhaid i chi eu datgomisiynu cyn gynted ag nad oes eu hangen mwyach. Gallai storfeydd dros dro gynnwys y canlynol:

  • adfer storfeydd segur
  • adfer tanciau
  • tanciau newydd
  • lagwnau clawdd pridd
  • lagwnau wedi'u lleinio
  • bagiau slyri

Mae'n rhaid i storfeydd dros dro fodloni'r canlynol:

  • bod mewn lleoliad diogel
  • para am lai na 12 mis
  • cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch
  • cael eu gosod yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr, e.e. tanciau a leineri
  • sicrhau bod sylfaen lagwnau clawdd pridd uwchben y lefel trwythiad – dylai fod o leiaf un metr o isbridd clai o dan y sylfaen arfaethedig
  • defnyddio leineri lle mae amheuaeth o ran hydreiddedd y pridd – dylai leineri gradd is fod yn ddigonol ar gyfer storio dros dro ond defnyddiwch leineri gradd uchel mewn ardaloedd o berygl uchel i ddŵr daear
  • cael eu monitro i sicrhau nad oes unrhyw ollyngiadau
  • cael eu lleoli o leiaf 30 metr o gyrsiau dŵr a draeniau tir
  • cael eu lleoli o leiaf 50 metr o ffynonnellau dŵr daear ac nid o fewn parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1
  • peidio â’u rhoi o fewn safle dynodedig
  • cael eu datgomisiynu cyn gynted ag nad oes eu hangen mwyach

Os ydych yn defnyddio cyfleusterau a rennir, mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • ystyried unrhyw risgiau bioddiogelwch
  • cytuno ar drefniadau rheoli a'u dogfennu
  • cytuno ar bwy sy'n gyfrifol a'i ddogfennu

Sut i daenu llaeth ar dir

Ni ddylid taenu llaeth ar dir oni bai fod yr holl opsiynau eraill ar gyfer ei storio a'i ddefnyddio wedi'u dihysbyddu a'i fod er budd amaethyddol. Gallwch daenu llaeth ar dir at ddibenion adfer os oes gennych eithriad gwastraff U10 ac yn cydymffurfio â'i amodau.

Peidiwch â chymysgu slyri â llaeth gan y gall greu nwyon marwol neu ffrwydrol fel methan, carbon deuocsid, amonia a hydrogen sylffid.

Cnydau wedi'u difetha

Storio

Os oes rhaid i chi storio cnydau wedi'u cynaeafu sydd wedi difetha ar eich fferm am fwy o amser nag arfer, mae'n rhaid i chi sicrhau bod y storfeydd yn bodloni'r canlynol:

  • eu bod yn anathraidd ac yn gwrthsefyll tywydd
  • eu bod yn meddu ar ddraeniau sydd wedi'u selio nad ydynt yn gollwng i'r amgylchedd
  • eu bod wedi'u leoli o leiaf 50 metr i ffwrdd o ddŵr wyneb neu sianel sy'n arwain at ddŵr wyneb
  • eu bod wedi'u lleoli o leiaf 50 metr i ffwrdd o darddellau, ffynhonnau a thyllau turio
  • nad ydynt o fewn safle dynodedig

Taenu

Os yw'ch cnwd yn aros yn y cae ac nid oes defnydd arall ar ei gyfer, dylid ei aredig yn ôl i'r cae. Mae'n rhaid i chi lynu wrth Amodau Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC).

Os caiff eich cnwd ei storio rhywle arall ar y fferm, mae'n rhaid i chi fod ag eithriad U13 i daenu cnydau'n ôl ar dir. Mae hyn yn cynnwys cnydau sydd wedi'u cynaeafu a’u storio ar fferm neu mewn tŷ pecynnu ar y fferm ac mae’n caniatáu taenu sylwedd planhigion i ddarparu buddion yn y man cynhyrchu yn ddarostyngedig i amodau.

Gwaredu

Os yw'r holl opsiynau eraill ar gyfer defnydd amgen o gnydau nas defnyddiwyd wedi'u disbyddu, dylech gymhwyso'r hierarchiaeth gwastraff a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.

Cynhyrchion anifeiliaid a chig

Rhaid i chi lynu wrth y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid.

Storio

Os oes rhaid i chi storio cynhyrchion anifeiliaid a chig ar eich fferm am gyfnod hirach na’r arfer, rhaid i chi sicrhau bod unrhyw storfeydd yn bodloni'r canlynol:

  • eu bod yn anathraidd ac yn gwrthsefyll tywydd
  • eu bod yn meddu ar ddraeniau wedi'u selio nad ydynt yn gollwng i'r amgylchedd
  • eu bod wedi'u lleoli o leiaf 50 metr i ffwrdd o ddŵr wyneb neu sianel sy'n arwain at ddŵr wyneb
  • eu bod wedi'u lleoli o leiaf 50 metr i ffwrdd o darddellau, ffynhonnau a thyllau turio
  • nad ydynt o fewn safle dynodedig

Gwaredu

Mae'n rhaid gwaredu ar bob cynnyrch anifeiliaid a chig yn unol â'r hierarchiaeth gwastraff a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru  a gofynion cyfreithiol. Mae'n rhaid ei waredu mewn cyfleuster y caniateir iddo dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaid. 

Taenu

Dim ond os yw'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cymhwyso rhanddirymiadau penodol o'r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid y gellir taenu rhai cynhyrchion anifeiliaid a chig ar dir. Pan gaiff y rhanddirymiadau hyn eu cymhwyso, rheoleiddir y gwaith o daenu unrhyw ddeunydd ar dir gan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a bydd angen i chi wneud cais am drwydded.

Stoc drig a chael gwared ar anifeiliaid marw yn ddiogel

Mae’n rhaid ichi lynu wrth y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a rheoli stoc drig yn unol â chanllawiau ar stoc drig a chael gwared ar anifeiliaid marw yn ddiogel.

Os bydd da byw yn marw ar eich fferm, mae'n rhaid iddynt gael eu casglu, eu nodi a'u cludo o'ch fferm cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

Ni ddylech wneud y canlynol:

  • llosgi neu gladdu stoc drig ar eich fferm
  • bwydo stoc drig i farcudiaid coch neu adar corffysol (adar sy'n bwydo ar garcasau)

Yn ystod amgylchiadau eithriadol, gallai gymryd amser hwy nag arfer i stoc drig gael ei chasglu.   Tra eich bod yn aros i'ch stoc drig gael ei chasglu, mae'n rhaid i chi sicrhau na all anifeiliaid ac adar gael mynediad i'r carcas.

Dylai unrhyw storfeydd dros dro ar y safle fod o fewn y lleoliadau canlynol:

  • o fewn yr ardal ddynodedig bresennol ar gyfer storio stoc drig; neu
  • o fewn cynhwysydd sydd wedi'i selio nad yw’n gollwg dŵr â gorchudd; neu
  • ar arwyneb anhydraidd gyda draeniau wedi'u selio i atal gollyngiadau i'r amgylchedd.

Gwaherddir claddu neu losgi stoc drig yn yr awyr agored i atal y risg o ledaenu glefydau o weddillion yn y pridd, dŵr daear neu lygredd aer.

Yn ystod amgylchiadau eithriadol, gallai'r llywodraeth lacio'r deddfau sy'n atal claddu a llosgi ar ffermydd. Pan gaiff y rhanddirymiadau hyn eu cymhwyso, rheoleiddir claddu gan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Gellir dod o hyd i ganllawiau ychwanegol ar gladdu anifeiliaid mewn argyfwng yma.

Diweddarwyd ddiwethaf