Beth yw ardreth ddraenio?
Ardrethi draenio
Er mwyn ariannu gwaith ar sianeli draenio a chyrsiau dŵr cyffredin, rhaid i bob eiddo wneud cyfraniad blynyddol, drwy dalu ardreth ddraenio. Bydd yr ardrethi sy’n berthnasol a’r dull talu’n dibynnu ar y defnydd sy’n cael ei wneud o’r tir a’r eiddo.
Categorïau ardrethi
Mae dau gategori ar gyfer ardrethi draenio:
- Tir ac adeiladau amaethyddol
- Tir arall (er enghraifft cartrefi, ffatrïoedd, siopau ac ati)
Dim ond os yw eich eiddo’n perthyn i’r categori ‘tir ac adeiladau amaethyddol’ y bydd angen i chi wneud taliad uniongyrchol i ni. Bydd ardrethi ar eiddo eraill yn cael eu talu i’r awdurdod lleol drwy’r Dreth Gyngor neu Ardrethi Annomestig.
Cyfraddau draenio
Mae'r taliadau yn amrywio ar gyfer pob un o'r 14 o ardaloedd draenio yng Nghymru
Sut alla i dalu fy ardrethi?
Gallwch dalu eich ardrethi drwy gerdyn credyd, cerdyn debyd, trosglwyddiad banc (BACS) neu siec (wedi’i gwneud yn daladwy i 'Cyfoeth Naturiol Cymru'). Dylech anfon eich siec i Blwch Post 663, Caerdydd CF24 0TP.
Manylion Talu | |
---|---|
Enw'r cwmni | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Cyfeiriad | Income Department, PO BOX 663, Cardiff, CF24 0TP |
Bank: | RBS |
Cyfeiriad y bank | National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA |
Sort code: | 60-70-80 |
Rhif cyfrif: | 10014438 |
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys rhif unigryw eich Cyfrif Draenio Tir (yng nghornel dde uchaf eich anfoneb) ag unrhyw daliadau rydych yn eu gwneud.
Talu’n bersonol yn eich banc
Gallwch hefyd dalu eich ardrethi drwy siec, yn ddi-dâl, wrth y cownter mewn unrhyw fanc NatWest, neu yn eich cangen eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb gan y banc NatWest am unrhyw daliad rydych chi’n ei wneud.
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â’ch taliad, cysylltwch â’n Canolfan Gofal Cwsmeriaid. Bydd rhywun ar gael i’ch helpu.
Beth ddylwn i ei wneud os nad yw’r tir yn eiddo i mi bellach neu os bydd fy manylion yn newid?
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os byddwch yn gwerthu eich tir neu rywfaint ohono. Fel arall, efallai y byddwch yn dal i orfod talu ardreth. Er mwyn i ni allu diweddaru ein cofnodion, bydd angen i chi anfon prawf o’r gwerthiant aton ni a manylion am y perchennog newydd.
Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion, cysylltwch â’n Canolfan Gofal Cwsmeriaid a chewch eich cyfeirio at aelod o’r staff a all ymdrin â’ch cais. Gallwch anfon copi printiedig o’ch prawf o werthiant i gyfeiriad yr aelod o’r staff neu anfon copi drwy ebost.